TTîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyn-gymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch y cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol.