Mae'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ganolfan adnoddau arbenigol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (ALlICh) fel eu prif angen.
Mae'r ganolfan ALlICh yn cynnig amgylchedd cefnogol a staff arbenigol i ddarparu ar gyfer anghenion plant yng Nghamau Dilyniant 1 - 3, ym Mro Morgannwg, sydd ag anghenion lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu.
Mae'r lefel a'r math o gymorth a gynigir yn cyfateb i anghenion y disgybl unigol a gall gynnwys:
- Cymorth cydweithredol gan dîm o Athrawon Arbenigol, Cynorthwywyr Cymorth Dysgu a'r Tîm Therapi Iaith a Lleferydd. Mae staff yn gweithio gyda rhieni ac ysgolion cartref i dargedu anawsterau sy'n gysylltiedig ag anghenion y disgybl
- Mynediad i amgylchedd lle mae'r staff yn brofiadol ac wedi'u hyfforddi ym maes ALlICh
- Rhaglen ddysgu unigol sy'n canolbwyntio ar iaith, geirfa a sgiliau cymdeithasol
- Cymorth i'r disgybl a'r staff yn yr ysgol brif ffrwd
Mae pob lleoliad yn rhan amser. Fel arfer, mae plant yn mynychu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol 3 diwrnod yr wythnos nes y teimlir gan yr holl weithwyr proffesiynol cysylltiedig ei bod yn briodol iddynt ddychwelyd i brif ffrwd yn llawn amser. Mae lleoliadau hwb wedi'u cyfyngu o ran amser i uchafswm o dri thymor. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd anghenion y plentyn yn cael eu hadolygu, a bydd naill ai'n dychwelyd i'r brif ffrwd gyda chyngor a/neu gymorth ar waith neu bydd yn cael cynnig lleoliad yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer ALlICh neu gellir ystyried lleoliad arall.
Mae anghenion pob disgybl yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda staff y Ganolfan Adnoddau, therapydd Iaith a Lleferydd, a'r ysgol brif ffrwd. Mae rhieni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eu plentyn. Mae Cynorthwywyr Cymorth Dysgu Arbenigol yn gweithredu fel cyswllt rhwng staff y Ganolfan Adnoddau a staff yr ysgol brif ffrwd i sicrhau parhad rhwng lleoliadau.