Cost of Living Support Icon

Strategaeth Hygyrchedd 2025-27

 

Cyflwyniad i'r cynnig

 

  • Cynnig yw hwn i ymgynghori ar y Strategaeth Hygyrchedd Ysgolion drafft 2025-2027. Mae hon yn ddogfen statudol sy’n ofynnol o dan baragraff 2(4) o atodlen 10 Deddf Cydraddoldeb 2010.

 

Mae'r strategaeth yn amlinellu nodau ac ymrwymiadau'r Cyngor i wella:

  • I ba raddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm ysgolion

  • Amgylchedd ffisegol ysgolion

  • Gallu disgyblion, gofalwyr a theuluoedd i gael gafael ar wybodaeth

  • Chyfathrebu a Thryloywder - bod yn agored ac yn onest am yr hyn y gellir ei ddisgwyl neu ei gyflawni.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau bod pob disgybl yn ei ysgolion a gynhelir a'i leoliadau addysgol yn cael pob cyfle i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau lleol, a bod ganddynt yr amgylcheddau dysgu gorau posibl. Er mwyn cefnogi hyn, mae'r cyngor yn cynnal rhaglen gynhwysfawr o Arolygon Cyflwr o bob ysgol er mwyn sicrhau bod yr holl bryderon hygyrchedd yn cael eu nodi'n glir. I gael rhagor o wybodaeth am ysgol unigol, gofynnwch i'r ysgol am eu Cynllun Hygyrchedd.

 

I gael rhagor o wydbodaeth am strategaeth y cynghorau, cysylltwch ag schoolorganisation@valeofglamorgan.gov.uk

 

Bydd y strategaeth yn egluro safbwynt y Cyngor ar wella hygyrchedd i ddisgyblion anabl ac yn amlinellu cyfrifoldebau ysgolion o ran bodloni eu gofynion o ran hygyrchedd gan gynnwys hygyrchedd y cwricwlwm, yr amgylchedd ffisegol a gwybodaeth i ddisgyblion anabl. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn ymgysylltu mor llawn â phosibl yn ei ddysgu a'i ddatblygiad a bydd y strategaeth hon yn helpu i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cynnwys yn llawn mewn amgylchedd ysgol.

 

Ymateb i'r Cyfnod Ymgynghori

  • Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu sut i symud ymlaen
  • Byddai'r Ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 7 Hydref a 18 Tachwedd 2024. Mae hon yn ffordd dda o allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynnig.

 

Mae eich barn yn bwysig i ni, byddwn yn dal i ofyn i chi lenwi ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, gan mai dim ond barn ysgrifenedig y gallwn ei derbyn.

 

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein
  • Bydd yr holl ymatebion a gyflwynir yn ysgrifenedig erbyn 18 Tachwedd 2024 yn cael eu hystyried gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Gellir gweld yr holl ddeunydd ymgynghori isod:

 

Dogfen Strategaeth Hygyrchedd Ddrafft 2025-2027

*Nid yw'r ddogfen ar gael yn Gymraeg eto