Model Hyfywedd Datblygu (MHD)
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cydweithio â Chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, yn ogystal ag ymgynghorwyr yn Burrows-Hutchinson Ltd, i greu’r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu (MHD). Crëwyd yr MHD hwn fel model cynhwysfawr sy'n hawdd ei ddefnyddio y gall cynigwyr safleoedd a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio er mwyn asesu hyfywedd ariannol cynigion datblygu.
Mae Canllaw Defnyddiwr manwl wedi'i greu sy'n egluro sut mae'r MHD yn gweithio; mae hefyd yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i ddefnyddwyr ei rhoi yn y celloedd perthnasol. Mae pob copi o'r MHD yn cynnwys 'Canllaw Cyflym' hefyd, sydd wedi'i anelu at y rhai sy'n cynnal asesiad o safle datblygu cwbl breswyl nad yw'n llawer mwy na 5 erw (2 Hectar). At hynny, mae 'Nodiadau Cymorth' yn atgoffa defnyddwyr o'r hyn i'w wneud wedi'u cynnwys yn y model ac wedi'u hymgorffori yn y taflenni gwaith eu hunain.
Mae hefyd ddolen ar sut i ddefnyddio'r model ar gael isod. Darperir rhain fel modd arall i sicrhau bod y defnyddiwr yn deall sut mae'r model hyfywedd datblygu (DVM) yn gweithio cam wrth gam.
Mae'r defnydd o'r MHD yn ystod yr Alwad gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, codir ffi am ddefnyddio'r model ar gam 3 ar gyfer y safleoedd hynny y mae'r Cyngor yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ganddynt. Cysylltwch â'r Tîm CDLl i ofyn am gopi o'r DVM.
Noder - Bwriad y Cyngor yw defnyddio'r model hwn ar gyfer yr holl asesiadau hyfywedd sy'n gysylltiedig â'r CDLlN, fel rhan o'r Safle Ymgeisiol a'r Strategaeth a Ffefrir - Y Camau ar Adnau. Felly, er mwyn sicrhau cysondeb, byddem yn annog pob un sy'n cynnig safleoedd i ddefnyddio'r model hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y MHD, cysylltwch â Thîm Polisi Cynllunio'r Cyngor:
1. Cyflwyniad
2. Trosolwg Preswyl
3. Elfennau Preswyl
4. Costau
5. Arfarnu a Llif Arian