Cwyn am Berthi Uchel
Os ydych yn pryderu am berth uchel yn effeithio ar eich eiddo mae gennych hawliau o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.
Mae’r ddeddfwriaeth ond yn perthyn i berth uchel, sy’n rhwystr i olau a ffurfir yn gyfan gwbl neu yn bennaf gan linell o goed neu brysglwyni bythwyrdd neu lled-fythwyrdd i uchder o fwy na 2 fetr uwchben lefel y llawr.
Mae’r Ddeddf yn ei wneud yn glir, pan fydd uchder perth y drws nesaf yn bryder, y ffordd orau o ymdrin â'r mater yw i'w drafod yn gyfeillgar a chytuno ar ateb. Am y rheswm hwn, mae’r gyfraith yn gofyn i bobl gymryd camau cyfrifol i geisio setlo eu hanghydfod gyda pherthi cyn cwyno i’r Cyngor lleol.
Os ydych chi wedi gwneud hyn ac yn dymuno gwneud cwyn bellach, llenwch y Ffurflen Gwyno, mae Nodiadau Cyfarwyddyd ar gael. Os digwydd bod cwyn ffurfiol yn cael ei chyflwyno a’i derbyn, bydd ffi o £320 yn daladwy.