Cost of Living Support Icon

Sut mae Gweld a Gwneud Sylwadau ar Geisiadau Cynllunio

Gallwch weld manylion ceisiadau cynllunio ac apeliadau cyfredol a blaenorol ym Mro Morgannwg ar Gofrestr Cynllunio’r Cyngor a gallwch chwilio mapiau ceisiadau cynllunio.

 

Am ragor o wybodaeth ar gais cynllunio cyfredol cysylltwch â’r Swyddog Achos Cynllunio – mae ei fanylion cyswllt ar y tab ‘Manylion Eraill’ ar bob cofnod.

 

Gallwch weld Adroddiadau’r Pwyllgor Cynllunio bedwar diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod. Gallwch hefyd wylio’r archif gweddarlledu ar gyfer cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Cynllunio i wylio’r ddadl.

 

Mynediad at Wybodaeth am Geisiadau Cynllunio

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 yn caniatáu i’r cyhoedd archwilio a gwneud copïau o ddogfennau yn ymwneud â cheisiadau cynllunio cyfredol. Mae gan Gofrestr Cynllunio ar-lein y Cyngor bob ffurflen gais, cynllun a gwybodaeth ategol arall (a hysbysiadau am benderfyniadau) ar gael i’w gweld ar unrhyw adeg.

 

Nid yw pob darn o wybodaeth, fel llythyron gan gymdogion er enghraifft, yn cael eu rhoi yn awtomatig ar y gofrestr cynllunio, ond maent ar gael i’w gweld ar gais wedi i’r wybodaeth bersonol gael ei thynnu oddi arni. Bydd gwybodaeth ar gael cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais.

 

Yn achos ceisiadau cynllunio Wedi’u Cau/Wedi’u Penderfynu, rhaid gwneud cais i weld y dogfennau hyn lle nad ydynt ar gael ar-lein.O dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae hawl gan awdurdodau lleol godi ffi rhesymol am gynnig y wybodaeth hon. 

Gwneud Sylw ar Gais Cynllunio

Os ydych am roi sylw ar gais cynllunio, y ffordd hawsaf i wneud hyn yw i edrych ar y cais ar y Gofrestr Cynllunio a defnyddio’r ddolen berthnasol ar frig y dudalen – ‘gwneud sylw ar y cais cynllunio hwn’ i gyflwyno eich sylwadau. 

 

Fel arall, gallwch e-bostio planning@valeofglamorgan.co.uk neu ysgrifennwch at yr Adran Gynllunio, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfa’r Dociau, Y Barri, CF63 4RT.

 

Nodwch y bydd unrhyw sylwadau gaiff eu cyflwyno ar gael i’w gweld ar gais, felly gwnewch yn siŵr nad ydych yn cynnwys unrhyw wybodaeth nad ydych am ei chyhoeddi, fel rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost, yn eich ymateb. Ni chaiff unrhyw sylwadau anweddus nac enllibus eu cyhoeddi, ac ni roir ystyriaeth iddynt. 

 

Dylai sylwadau ond fod yn berthnasol i’r cynigion datblygu a materion cynllunio perthnasol. Gallant gynnwys, er enghraifft: effeithiau ar breifatrwydd ac amwynder eiddo cyfagos; dylunio; traffig a pharcio; effeithiau ar dreftadaeth ac asedau amgylcheddol, a chynaliadwyedd. Nodwch na fydd materion o ddiddordeb preifat yn berthnasol, fel: colli golygfa, effaith ar werth eiddo, ac anghydfod yn ymwneud â ffin/tir.

 

 

Gwylio cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio neu Siarad ynddoCouncil-chamber

Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio'n fyw a'u recordio i'w trosglwyddo yn dilyn hynny drwy wefan gyhoeddus y Cyngor. Bydd cyfarfodydd a gynhelir ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein. Gwiriwch agendâu cyfarfod unigol i nodi'r platfform (hy Anghysbell neu Hybrid) sydd i'w ddefnyddio i ffrydio'r cyfarfod.

 

Mae’r Pwyllgor Cynllunio yn cyfarfod unwaith y mis (fel arfer am 4pm ar ddydd Iau) i ystyried y ceisiadau cynllunio sydd wedi’u ‘galw-i-mewn’ gan Gynghorwyr Lleol neu gynigion datblygu mwy nad ydynt yn dod o dan gynllun dirprwyo'r Cyngor.

 

Mae hawl gan y cyhoedd i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i glywed yr hyn sy’n digwydd. Gellir cyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod, ond mae cyfle hefyd i siarad ger ei fron. 

 

Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno siarad ar unrhyw gais Cynllunio isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro ac ystyried Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor a Chanllaw Cyfranogiad y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor.

 

Dim ond ar eitem sydd wedi’i chyhoeddi ar agenda y mae modd cofrestru i siarad. Felly, gwiriwch agenda'r Pwyllgor perthnasol cyn cofrestru i siarad.

 

Gweld Agendau Cynllunio

 

Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio, gan gynnwys y rhan lle mae’r cyhoedd yn cael siarad, eu recordio fel arfer a’u gwe-ddarlledu’n fyw, a’u harchifo i’w gwylio eto ar wefan y Cyngor. 

 

 

Sut Mae Eich Sylwadau Yn Cyfri

Bydd y swyddog achos yn ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn pryd, ac os oes angen, gallai hyn arwain at ddiwygiadau i’r cais cynllunio. Bydd sylwadau’n cael eu cynnwys yn adroddiad y swyddog ac yn cael eu hystyried gan y rhai sy’n gwneud y penderfyniad – naill ai’r Prif Swyddog Cynllunio neu’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Byddwn yn derbyn ac yn adrodd ar sylwadau a dderbyniwyd hyd nes 12pm ar y diwrnod cyn y Pwyllgor Cynllunio. Caiff y sylwadau hyn eu hanfon dros e-bost at aelodau’r Pwyllgor ar y noson cyn y Pwyllgor, ac fe’u cyflwynir ar gopi caled yn ystod y cyfarfod ei hun. 

 

Lle byddwch wedi cofrestru i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio, caiff y sylwadau a wneir eu hystyried gan y rhai sy’n bresennol, cyn dod i benderfyniad. Efallai bydd rhaid i chi egluro rhai pwyntiau pellach i Aelodau’r Pwyllgor yn y cyfarfod.

 

Yn achos apêl yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio, caiff eich sylwadau eu rhoi i’r Arolygydd Cynllunio sy’n penderfynu ar yr apêl, ac fe’ch gwahoddir i wneud sylwadau pellach os dymunwch.