Canclwm Japan ar dir preifat
Nid yw’n ddyletswydd ar Gyngor Bro Morgannwg na Chyfoeth Naturiol Cymru i reoli canclwm Japan ar ran tirfeddianwyr eraill. Cyfrifoldeb perchennog y tir yw rheoli canclwm Japan ar eu tir os yw’n effeithio ar dir cyfagos.
Mae dycnwch gwreiddgyffion canclwm Japan yn ei gwneud hi’n anodd gwaredu’r planhigyn. Bydd angen i chi drin y canclwm Japan am nifer o flynyddoedd, er eich bod yn credu eich bod wedi cael gwared ohono ar ôl y driniaeth gyntaf.
Pa ddull rheoli bynnag gaiff ei ddewis, bydd angen monitro’r safle yn gyson i sicrhau nad yw’r canclwm yn lledaenu i fannau eraill nac yn llygru dyfrffosydd.
Nodwch: bydd torri neu falu canclwm Japan yn peri iddo wasgaru. Peidiwch â chompostio na mân dorri canclwm Japan.