Cost of Living Support Icon
Children-Leaving-School

Trafnidiaeth Ysgol

Mae gan Awdurdodau Addysg Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu trafnidiaeth i’r ysgol am ddim i ddisgyblion o oed ysgol statudol sy'n byw y tu hwnt i'r pellter cerdded i'r ysgol briodol agosaf.  

 

 

 

Nid yw’r Cyngor yn darparu trafnidiaeth i’r ysgol am ddim i blant oed meithrin oni bai am y rheiny â Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).  

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg bolisi disgresiwn sy'n rhoi help ariannol tuag at deithio i'r coleg ac adref.  

 

Os yw eich plentyn yn gymwys am drafnidiaeth i’r ysgol am ddim, fel arfer rhoddir caniatâd iddo deithio ar gerbyd contract arbennig os oes un yn gwasanaethu’ch ardal. Mewn achosion eraill darperir pas bws i deithio ar y rhwydwaith gwasanaeth.  

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu trafnidiaeth i’r ysgol am ddim ar gyfer:  

  • Disgyblion o oedran cynradd sy’n byw dwy filltir neu fwy o'u hysgol dalgylch ddynodedig agosaf o'r fath. 
  • Disgyblion o oedran uwchradd sy’n byw tair milltir neu fwy o'u hysgol dalgylch ddynodedig agosaf o'r fath. 

 

Trefniadau Trafnidiaeth Ysgolion Prif Ffrwd ar Gyfer 2023-24

Bydd rhieni/gofalwyr yn cael llythyrau, fel sy’n arferol dros yr haf, yn rhoi gwybod iddynt am y gwasanaeth y bydd eu plant wedi’u neilltuo iddo, gyda rhybudd y dylent fynd i’r dudalen we trafnidiaeth ysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

  

Disgyblion â hawl

Mae disgyblion o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 yn cael eu hasesu’n awtomatig ar gyfer trafnidiaeth ysgolion prif ffrwd am ddim. Mae disgyblion oedran ysgol gynradd yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim os ydynt yn byw mwy na 2 filltir i ffwrdd o’u hysgol ddalgylch, neu’r un agosaf nesaf os yw un y dalgylch yn llawn. Mae disgyblion oedran ysgol uwchradd yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim os ydynt yn byw mwy na 3 filltir i ffwrdd o’u hysgol ddalgylch, neu’r un agosaf nesaf os yw un y dalgylch yn llawn.  

 

Nid oes angen cwblhau na llofnodi unrhyw ffurflenni a chaiff llythyrau/pasiau/amserlenni eu hanfon yn uniongyrchol i gyfeiriadau cartref erbyn dydd Gwener 18 Awst 2023.  

 

Dim ond disgyblion sydd wedi cofrestru’n hwyr, sydd wedi symud i gyfeiriad newydd neu a fydd yn dechrau cyrsiau addysg ôl-16 (Blwyddyn 12) ym mis Medi fydd yn gorfod cysylltu â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol:

 

  • Derbyniadau Newydd - Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 

    Mae’r holl ddisgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 wedi’u hasesu a chaiff llythyr/pàs bws ei (h)anfon i gyfeiriad cartref y disgyblion cymwys erbyn dydd Gwener 18 Awst 2023. Felly os oes unrhyw broblemau, bydd gennym ddigon o amser i wneud newidiadau dros wyliau’r haf. Os nad ydych wedi derbyn eich pàs bws neu lythyr erbyn dydd Gwener 18 Awst 2023, cysylltwch â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol:

     

     

  • Blwyddyn 1 i Flwyddyn 11 

    Bydd yr holl ddisgyblion sydd wedi cael trafnidiaeth ysgol am ddim eleni’n derbyn llythyr/pàs bws yn awtomatig a gaiff ei anfon i gyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad (cysylltwch â ni os ydych wedi symud yn ddiweddar) ynghyd â chrynodeb o’r polisi, y cod ymddygiad teithio ac amserlen y llwybr. Os nad ydych wedi derbyn eich pàs bws neu eich llythyr erbyn dydd Gwener 18 Awst 2023, cysylltwch â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol:

     

  • Disgyblion Ôl-16 (Blwyddyn 12 i Flwyddyn 13) 

    Bydd angen i ddisgyblion sy’n dechrau ym Mlwyddyn 12 ac sydd am barhau gyda’u hastudiaethau o fis Medi 2023 ymlaen (yn eu hysgol ddalgylch neu yng Ngholeg Dewi Sant) roi gwybod i’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol erbyn dydd Llun 28 Awst 2023 fan pellaf er mwyn derbyn eu pàs ar gyfer dechrau mis Medi.  

     

    E-bostiwch schooltransport@valeofglamorgan.gov.uk cyn gynted â phosibl gyda’r wybodaeth ganlynol:  

    • Enw’r plentyn

    • Dyddiad geni 

    • Cyfeiriad

    • Rhif cyswllt

    • Ysgol

    • Rhif y llwybr (os yw’n hysbys)

     

    Trafnidiaeth Coleg:  Teithio myfyrwyr addysg bellach i bobl ifanc 16/19 oed

     

     

     

     

    Sylwer: Mae’r disgyblion hynny sy’n gymwys am drafnidiaeth ysgol am ddim yn cytuno i gydymffurfio â pholisi trafnidiaeth Ysgolion Cyngor Bro Morgannwg a chod ymddygiad teithio Llywodraeth Cymru.  

     

     

     

     

     

 

 

  

Pas Bws Ysgol Am Ddim 

Os ydych am holi am drafnidiaeth ysgol am ddim (gan gynnwys Coleg Caholig dewi Sant a myfyrwyr blwyddyn 12/13 eraill), anfonwch e-bost gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • Enw'r plentyn:
  • Dyddiad Geni:
  • Cyfeiriad:
  • Rhif Cyswllt:
  • Ysgol:
  • Rhif y llwybr deithio (os yn wybydus):

 

Nodwch: Ni fyddwn yn darparu trafnidiaeth ysgol am ddim os, o ganlyniad i ddewis rhieni, fod eich ysgol yn mynychu ysgol nad hi yw’r ysgol agosaf neu’r ysgol ddalgylch ddynodedig.

Prynu Pas Bws Ysgol

 

Prynu Pàs Bws Ysgol ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023/24 (h.y. Dechrau Medi 2022)

Os ydych am brynu sedd sbâr ar fws ysgol sydd dan gontract yna llenwch y Cais Prynu Pàs Cludiant i'r Ysgol ar gyfer 2022-23 a'i ddychwelyd i schooltransport@valeofglamorgan.gov.uk

 

Ffurflen Gais i brynu Pàs Bws Ysgol i’w ddefnyddio ar Fws Contract Ysgol 2023-24

 

Sylwer:  

  • Oherwydd llwyth gwaith presennol y tîm cludiant ysgol, ni fydd ceisiadau am gydnabyddiaeth o dderbyn e-byst/ffurflenni ceisiadau am bàs yn cael eu hanfon;
  • Ni fydd gan ddisgybl y dyrennir sedd iddo un flwyddyn hawl awtomatig i brynu sedd sbâr y flwyddyn ganlynol am y rhesymau canlynol:
    • efallai na fydd capasiti dros ben mwyach;
    • mae'r cais wedi'i gyflwyno'n hwyrach nag eraill ac nid oes seddi sbâr ar gael mwyach;
    • mae’n bosib bydd y Cyngor yn penderfynu peidio â gwerthu seddi sbâr.
  • Cost y pàs bws ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yw £350;
  • Os dyrennir sedd, anfonir anfonebau ym mis Hydref i'w talu ac unwaith y byddant wedi'u derbyn rhaid gwneud y taliad yn llawn;
  • Ni ellir rhoi unrhyw warant y bydd unrhyw bàs a brynwyd yn cael eu derbyn gennych cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd (efallai y bydd angen gwneud trefniadau cludiant eraill);
  • I gael rhagor o wybodaeth am delerau ac amodau prynu pàs ar wasanaeth cludiant ysgol dan gontract, cyfeiriwch at gefn y ffurflen prynu pàs.

Dylid e-bostio ffurflenni cais wedi eu cwblhau i:

 

 

Pas Bws Newydd 

Gellir cael pasys newydd gan yr Uned Cludiant Teithwyr am ffi weinyddol o £12 ar gyfer pob pas newydd.