Rwyf am brynu pàs bws ar wasanaeth A16 (Y Rhws i Ysgol Gyfun y Bont-faen) ar gyfer fy mhlentyn sydd ym Mlwyddyn 8, 9, 10, 11, 12 neu 13 sy'n mynychu Ysgol Gyfun y Bont-faen ond dywedwyd wrthyf nad oes capasiti sbâr. A fydd y Cyngor yn sicrhau bod seddi ar gael drwy drefnu bod cerbyd ychwanegol ar gael?
Ymateb: Na.
Penderfynodd y Cyngor dynnu'n ôl y cyllid ar gyfer talu cludiant ysgol o fis Medi 2020 ac nid yw'n gallu darparu cyllid ar gyfer gwasanaeth bws sy'n darparu ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol.
Yn ogystal, mae gwasanaeth preifat sy'n rhedeg o ardal y Rhws i Ysgol Gyfun y Bont-faen (CC1) eisoes ar waith. Mae'n wasanaeth masnachol sy'n cael ei redeg gan Caring Coaches.
Nid oes gan y Cyngor ddyletswydd statudol i werthu seddi sbâr ar ei wasanaethau cludiant ysgol dan gontract. Fodd bynnag, mae'n gwneud hynny yn ôl ei ddisgresiwn ac ar sail y cyntaf i'r felin. Ar hyn o bryd codir £300 y flwyddyn am seddi sbâr (cyfradd llawer is o'r gost wirioneddol y pen am ddarparu cludiant i'r ysgol). Unwaith y dyrennir yr holl seddi sydd ar gael, hysbysir rhieni/gofalwyr ac os nad ydynt yn llwyddo i brynu sedd, rhaid iddynt wneud eu trefniadau teithio eu hunain. Gwerthir pasys ar yr amod y gellir eu cymryd yn ôl ar fyr rybudd (os oes angen lle ar y bws i ddisgybl sy'n gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol). Nid yw dyfarnu pàs i chi yn golygu y cewch bàs yn y blynyddoedd a ddaw.
Ar hyn o bryd, nid oes seddi sbâr ar gael ar wasanaeth bws ysgol A16 yn dilyn dyraniad ar sail y cyntaf i'r felin o'r nifer fach o seddi a oedd ar gael.
**Dylid nodi oherwydd Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (RhHCGC), ni all y Cyngor werthu capasiti sbâr ar rai gwasanaethau (h.y. y cerbydau hynny nad ydynt yn cydymffurfio â RhHCGC neu sydd wedi cael caniatâd dros dro tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2020-21 gan yr Adran Drafnidiaeth). O dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn rhoi cyngor ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.
Ar hyn o bryd nid yw'n hysbys a fydd yr Adran Drafnidiaeth yn rhoi eithriadau pellach, ar ôl 31 Rhagfyr 2021, felly efallai na fydd yn bosibl gwerthu seddi sbâr ar rai gwasanaethau. Bydd gwybodaeth am hyn yn cael ei hanfon cyn gynted ag y bydd y Cyngor wedi cael penderfyniad gan yr Adran Drafnidiaeth. Gan fod gwasanaeth cludiant ysgol A16 yn wasanaeth newydd mae'r gweithredwr yn darparu cerbyd sy'n cwrdd â'r RhHCGC.