Mae cyllid Dyraniad Craidd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i barhau i ddatblygu cyswllt cerdded/beicio rhwng y Barri a Dinas Powys.
Ymgymerwyd ag ymgynghoriad llwybrau yn 2022 ac mae adroddiad yr ymgynghoriad ar gael.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyluniad terfynol y llwybrau ym mis Mehefin 2024. Gellir gweld yr adroddiad ymgynghori, a'r argymhellion yma: Adroddiad ymgynghori Mehefin 2024.
Bydd gwaith a gynllunnir yn ystod BA24-25 yn cynnwys trafodaethau gyda thirfeddianwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac adran gynllunio'r Cyngor.
Cynlluniau ar gyfer llwybr arfaethedig a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin 2024:
Trosolwg - cynllun o'r llwybr cyfan
Taflen 1 - Y Barri i Green Lane
Taflen 2 - Green Lane/Parc Bryn y Don i Heol y Frenines
Taflen 3 - Heol y Frenhines i St Cadog's Avenue
Mae'r cais cynllunio yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2025 a phan fydd hynny, gellir dod o hyd i ddogfennau ar Borth Cynllunio'r Cyngor.