Cost of Living Support Icon

Canllaw a Manyleb Dylunio Goleuadau

Mae ein canllaw ar gyfer datblygwyr yn gymwys ar gyfer offer trydanol priffyrdd ar ffyrdd ar ddatblygiadau preswyl ac ystadau diwydiannol a pharciau manwerthu lle na ddisgwylir i gyflymder cerbydau fod yn uwch na 30 mya (50 cya)

 

Er y bydd manyleb offer i’w ddefnyddio ar ffyrdd ar gyfer cyflymderau cerbydau uwch yn gyffredinol yn cydymffurfio â’r ddogfen hon, argymhellir y dylid trafod hyn gyda’n Rheolwr Goleuadau Stryd cyn cychwyn ar gynllun manwl.

 

Y deunyddiau a awgrymir i’w defnyddio wrth osod goleuadau stryd ar ffyrdd yw ein hoff ddewis ar gyfer system goleuadau strydoedd ar ffyrdd sydd i'w mabwysiadu. Dylai datblygwyr sy’n dymuno defnyddio cynlluniau neu ddeunyddiau gysylltu â'n Rheolwr Goleuadau Stryd er mwyn sicrhau na chaiff mabwysiadu ei beryglu.

 

Nid yw rhoi caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth i reoliadau adeiladu yn golygu y bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn mabwysiadu'r goleuadau stryd arfaethedig neu o reidrwydd y bydd y priffyrdd fel y'i cynigir yn addas i gael eu mabwysiadu.

 

Mae’n hanfodol bod datblygwyr yn ymgynghori â’n hadran datblygu priffyrdd cyn cyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth ar reoliadau adeiladu, er mwyn sicrhau y bydd yr hyn a gynigir yn dderbyniol ar gyfer mabwysiadu.

 

Canllaw Dylunio Goleuadau

 

Cysylltwch â ni ar gyfer y fanyleb gwifrio trydanol a manylion safonol: