Cost of Living Support Icon

Gorchmynion Rheoli Traffig

 

Beth yw Gorchymyn Rheoli Traffig?

Mae Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT) yn ddogfen gyfreithiol y gallwn ei chyflwyno er mwyn rheoli neu gyfyngu ar draffig ar ffyrdd cyhoeddus.

 

Mae angen Gorchmynion Rheoli Traffig ar gyfer:

  • Lleoedd parcio

  • Mannau aros, llwytho a dadlwytho 

  • Llinellau melyn dwbl

  • Strydoedd un ffordd 

  • Gwaharddiadau troi

  • Terfynau cyflymder

  • Gwahardd cerbydau 

  • Cyfyngiadau pwysau cerbydau 

  • Lonydd bysus a beicio

  • Safleoedd tacsis

Rydym yn derbyn llawer o geisiadau i orfodi parcio yn gyfreithiol ar linellau melyn dwbl. Yn anffodus, oherwydd y weithdrefn gyfreithiol, byddai'n rhy gostus ac yn cymryd gormod o amser i gael GRhT ar gyfer pob achos. Am y rheswm hwn, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu polisi lle mae Gorchmynion Rheoli Traffig yn cael eu gweithredu pan fo tystiolaeth glir o bryder ynghylch diogelwch ar ffordd neu lif traffig cyfyngedig ar hyd ffordd.

 

Gorchmynion Rheoli Traffig Cyfredol:

Mae gennym ddyletswydd statudol i hysbysebu'n ffurfiol ein bwriad i wneud Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT) newydd. Mae'r Gorchmynion Rheoli Traffig a restrir isod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Edrychwch ar y dogfennau a chyflwynwch unrhyw adborth ar y ffurflen a roddir, gan ddyfynnu'r cyfeirnod.

 

Gorchmynion Rheoli Traffig Cyfredol:
CyfeirnodDisgrifiadDogfennauCyfnod ymgynghori   AdborthStatws
IF 967 Ymgynghoriad ar Eithriadau 20mya

 

Hysbysiad Creu

 

Gorchymyn Rheoli Traffig Wedi’i Selio

 

Yr Adroddiad Cabinet

 

Ar 7 Medi 2023, ystyriodd a chytunodd Cabinet y Cyngor ar adroddiad gwrthwynebu manwl a chynhwysfawr ar y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) arfaethedig ar gyfer Eithriadau i Derfynau Cyflymder 20mya Diofyn Cymru a Gweithredu Cyflymder Ategol. Bydd y gorchymyn Hysbysiad Creu yn cael ei gyhoeddi yn y Glamorgan Star ddydd Iau 21 Medi. Mae copi o'r adroddiad gwrthwynebu ynghlwm, ynghyd â chofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Medi. Wrth gymeradwyo'r penderfyniad yn unol â'r adroddiad bod gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad.

Gorchymyn wedi'i Selio

 

Rheoleiddio Traffig Ffyrdd ar gau:

 

Rheoleiddio Traffig Ffyrdd ar gau
CyfeirnodDisgrifiadDogfennauCyfnod ymgynghori   AdborthStatws
IF 967 Ymgynghoriad ar Eithriadau 20mya

Hysbysiad o Gynnig: Eithriadau 20mya

 

Atodlen: Eithriadau 20mya

 

Cynllun: Eithriadau 20mya

 

Gweld ar fap (Map Data Cymru)

22 Mehefin 2023 – 19 Gorffennaf 2023 Ymgynghoriad ar yr eithriadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder 20mya diofyn Ar gau