Arolygiadau Priffyrdd
Mae ein harolygwyr priffyrdd yn adolygu ffyrdd yn rheolaidd drwy ddilyn amserlen a bennir ymlaen llaw (gan gynnwys dosbarthiad ffyrdd a phwysigrwydd llwybrau) ac maent yn nodi pob math o ddiffyg neu berygl, megis gwrychoedd a gordyfiant. Mae hyn er mwyn cadw'r briffordd yn ddiogel.
Os oes angen, bydd llythyrau’n cael eu hanfon at breswylwyr lle darganfyddir gordyfiant. Yn y rhan fwyaf o achosion, unwaith y bydd llythyr yn dod i law, bydd y perchennog yn torri'r gordyfiant yn ôl. Fodd bynnag, os na chaiff y goeden neu'r gwrych sydd wedi gordyfu ei dorri'n ôl gan y perchennog, gallwn, pan fetho popeth arall, roi rhybudd iddo wneud y gwaith o dan Adran 154 Deddf Priffyrdd 1980.