Cost of Living Support Icon

Project Gwella Lôn Pum Milltir

Nod Project Gwella Lôn Pum Milltir yw gwella diogelwch ar hyd yr A4226 (Lôn Pum Milltir) rhwng yr A48, cyffordd Sycamore Crosshyd at Waycock Cross yn y Barri. 

 

Lôn gerbydau unigol yw’r ffordd gyfredol. Mae'r cynllun yn cynnwys cyfuniad o welliannau gan gynnwys:
  • Adeiladu ffordd newydd sy’n osgoi rhan ganolog droellog y ffordd gyfredol.
  • Mynediad a diogelwch gwell ar gyfer defnyddwyr nad ydynt mewn ceir ar ffurf pont a throedffordd a llwybr beiciau cyfun.
  • Gwaith i wella’r draeniau ar gyfer y lôn gerbydau gyfredol.
  • Cyflwyno cyfyngiad cyflymder o 60mya o Sycamore Cross i Ganolfan Heboga Cymru.
  • Croesfan ddiogel i ddefnyddwyr marchogol.

 

Bydd y ffordd gyfredol yn parhau i fod ar agor ar ôl cwblhau’r cynllun er mwyn cynnig mynediad lleol at ffermydd amrywiol ar ei hyd ac fel opsiwn llwybr diogel ar gyfer defnyddwyr nad ydynt mewn ceir.  Bydd mynediad i gerbydau i ac o’r ffordd hon o’r tair cyffordd arfaethedig sy'n cysylltu â'r ffordd newydd.  Ni fydd yr holl lwybrau cerdded a goleuadau stryd eraill ar hyd y Lôn Pum Milltir gyfredol yn newid.

 

  • Llwybr March
     Mae’r cynllun sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer Caniatâd Cynllunio yn cynnwys llwybr march newydd sy’n rhedeg o bwynt mynediad ar ran o'r A4226 presennol a thua'r gogledd ar ochr orllewinol y cynllun heol newydd, dros bont newydd ar Fferm Sutton ac yna'n mynd yn ei flaen tua'r gogledd ar ochr ddwyreiniol yr heol newydd i'r heol ochr ger Bwthyn Northcliffe. Bydd hyn yn creu llwybr diogel ar gyfer cerddwyr a cheffylau.
  • Llwybr seiclo/llwybr troed
     Byddai’r llwybr a gynigir yn rhedeg o gylchfan Waycoch i’r encilfa, ond ar yr ochr orllewinol. Wedyn drwy’r hen Lôn Bum Milltir (sy’n cael ei chau i draffig ar y ddau ben). Bydd wedyn llwybr seiclo/llwybr troed o Fferm Backland i groes Sycamore, eto ar yr ochr orllewinol.

 

Sesiynau galw heibio 

Dydd Mercher cyntaf y mis

Bydd sesiynau galw heibio ar ddydd Mercher cyntaf pob mis rhwng 2.00pm a 4.00pm yn swyddfa safle Griffiths (ar y dde ar ôl y camera cyflymder o'r Barri).

 

Gwaith ar y Ffyrdd a Chau Ffyrdd

 

14/10/2019 - am 5 wythnos

Signalau aml-ffordd wedi'u cynnig. Mae'r trefniadau rheoli traffig a roddwyd ar waith i ganiatáu i Dwr Cymru wneud gwaith ar hyd y briffordd bellach wedi'u dileu. Byddwn nawr yn trafod dewisiadau amgen sy'n caniatáu i'r gwaith hanfodol fynd yn ei flaen gan sicrhau cyn lleied o aflonyddwch i breswylwyr â phosib.

 

19/10/2019, 7.00am - 7.00pm / 20/10/2019, 7.00am - 7.00pm

Cau pen y de o Weycock Cross i Ganolfan Heboga Cymru

  

 

Mae pob busnes yn yr ardal ar agor fel yr arfer. Gallwch eu cyrraedd drwy’r pen gyferbyn â’r pen sydd ar gau.


 

Cyfyngiad cyflymder wedi lleihau

Mae gyfyngiad cyflymder ar ran o’r Lôn Pum Milltir o 30mya wedi ei gyflwyno o gyffordd Sycamore Cross i Gylchfan Weycock. Mae hyn er mwyn gallu cwblhau'r gwaith adeiladu angenrheidiol yn ddiogel ar gyfer y gwelliannau i'r lôn pum milltir.

 

Sylwer: Gall pob dyddiad ac amser newid.

 

Diweddariadau cynnydd 

 

  • Medi 2019

    Mae’r ffordd newydd wedi’i hagor i draffig i alluogi’r gwaith o gwblhau'r rhannau/cyffyrdd cysylltiedig.

     

    Hefyd, mae’r cynlluniau i gau’r ffordd dros bedwar penwythnos yn dal ar y gweill, i alluogi’r gwaith o osod y wynebau ffordd olaf.

     

     

    Bydd rhywfaint o waith plannu coed yn cael ei wneud yn ystod y misoedd nesaf.

     
  • Awst 2019

    Mynychodd Griffiths Sioe Amaethyddol Bro Morgannwg eleni, lle rhannon nhw gynlluniau’r Lôn Pum Milltir gydag ymwelwyr a’r newyddion diweddaraf amdanynt. 

     

    Griffiths-at-Vale-Show

     

  • Mehefin 2019

     

    • Mae’r adrannau canol a deheuol wedi’u cwblhau.
    • Bydd gwaith ar yr adran ogleddol yn dechrau’n fuan ac yn cynnwys ail-ddylunio ardal y safle bws.
    • Mae gwaith yn cael ei wneud gan gwmnïau dŵr a thrydan sy’n gysylltiedig â gwaith adeiladu ffordd sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar Lôn Pum Milltir a bydd yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth i gerbydau, cerddwyr a beicio yn yr ardal.
    • Bu problemau technegol parhaus gyda hen brif bibell fawr asbestos sy’n gwasanaethu nifer fawr o eiddo yn ardal y Barri, y Rhws a’r maes awyr. Mae Dŵr Cymru wrthi ar hyn o bryd yn datrys y problemau hyn tra hefyd yn cynnal cyflenwad dŵr i gartrefi a busnesau yn yr ardal.  Disgwylir cwblhau’r gwaith dŵr hwn erbyn dechrau mis Gorffennaf.

     

    Bridge
    Central-section

     

    Section-by-bridge
    Trees-on-five-mile-lane
  • Rhagfyr 2018

     
  • Hydref 2018

    Mae canlyniadau’r haf braf yn amlwg ar y safle. Cwblhawyd y gwaith o symud 100,000m3 o ddeunydd oddi ar-lein i greu proffil y ffordd newydd yn gynt na’r amser disgwyliedig.

     

     

     

  • Awst 2018

     

    Topsoiled cut area viewed south from Ch2800
    Topsoiled cut as viewed south from Ch 2550

    Sycamore Cross

     

     
  • Gorffennaf 2018

    Mae’r haen uchaf o bridd wedi ei dynnu o ran helaethaf y safle ac mae’r cloddio swmpus yn mynd rhagddo nawr ar Fferm Sutton Fach. Mae gwaith cloddio hefyd wedi dechrau ar byllau draenio ym mhob rhan o’r project. Mae’r holl waith archeoleg wedi ei gwblhau ac eithrio yr ardal rhwng y Ganolfan Heboga a chylchfan Waycock.

     

    bulk excavation at Sutton Fach Farm.
    topsoil strip on the proposed new road.

 

 

Cynlluniau a Dogfennau

Ar 25 Ionawr 2016 mi benderfynodd y Cyngor weithredu Pryniant Gorfodol a Gorchymyn Ffyrdd Ochr at ddiben hwyluso cyflenwi cynllun adeiladu a gwelliannau a gweithfeydd eraill i wella yr A4226 Lôn Pum Milltir.

 

 

Dogfennau Lôn Pum Milltir

Beech Tree

Tirlun a Bioamrywiaeth  

Un o brif gydrannau'r cynllun fydd ei ddyluniad tirlun a bioamrywiaeth.  Caiff coed, coetir a llwyni cyfredol eu cadw lle bo’n bosibl i helpu i leihau unrhyw effeithiau ecolegol, amwynder gweledol a thirlun niweidiol. Bydd gwaith yn cynnwys plannu:

  • Coetir llydanddail

  • Llwyni rhywogaeth-gymysg brodorol

  • Coed unigol

  • Glaswelltir amwynder a llawn rhywogaethau

  • Gwaith pridd

Caiff rhywogaethau coetir brodorol sydd eisoes yn bodoli’n lleol eu plannu ar dir gerllaw’r Cynllun i leihau’r cynefinoedd gaiff eu colli ac integreiddio tirlun a sgrinio.

North Range SMR  16bGwaith Archeolegol

Comisiynwyd Rubicon Heritage gan Gyngor Bro Morgannwg i wneud rhaglen o waith ymchwilio archeolegol yn gysylltiedig â chynllun gwella’r A4226.

 

Trwy gydol y project archeolegol, cyd-gysylltodd Rubicon ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chadw gyda chynrychiolwyr o’r tri sefydliad yn ymweld â’r safleoedd yn ystod y gwaith cloddio. 

 

Mae’r project wedi darparu ystod eang o dystiolaeth arwyddocaol iawn ar gyfer archeoleg a hanes yr ardal o gynhanes cynnar (3500BC) hyd at gyfnod y Rhufeiniad (canrifoedd 1af a 4ydd AD).

 

Gwaith Archeolegol ar Dir yn Lôn Pum Milltir

 

Cyn ac yn ystod y gwaith ffordd cychwynnol i wella'r A2226, ymchwiliodd Rubicon Heritage Services Ltd i Safle Lôn Pum Milltir.

 

Yn dilyn yr ymchwiliad, mae adroddiad archeolegol cychwynnol ar y gwaith a wnaed rhwng 2017 a 2019 wedi'i gyhoeddi’n ddigidol.

 

Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r safle, ei gronoleg, ei dirwedd, a'r canfyddiadau cychwynnol mewn perthynas â'r bobl a oedd yn byw ar y tir ac yn ei ffermio o ddiwedd yr Oes Efydd i'r cyfnod Rhufeinig.

 

Mae'n rhoi canllaw cychwynnol cyffrous i'r hyn a ganfuwyd a'n dealltwriaeth o hanes y safle.

 

Ar ôl cwblhau dadansoddiad manwl pellach gan arbenigwyr amrywiol, cyhoeddir astudiaeth academaidd fanylach ddiwedd 2022.

 

Gyhoeddi’n ddigidol   Map stori rhyngweithiol