Pan fydd y treial yn dod i ben, byddwn yn dweud wrthych a fyddwn yn parhau i gasglu'r eitemau hyn gennych yn yr un ffordd, neu sut y dylech gael gwared ar yr eitemau hyn yn y dyfodol.
Gallwch hefyd barhau i ailgylchu eich bagiau plastig a'u lapio drwy fynd â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu leol.
Fel arall, derbynnir rhai o'r eitemau hyn mewn mannau ailgylchu 'y tu allan i'r cartref' mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd. Ewch i
walesrecycle.org.uk i ddod o hyd i'ch cyfleuster agosaf. Gall y mathau o eitemau a dderbynnir amrywio rhwng gwahanol leoliadau, felly dilynwch y canllawiau a ddarperir gan y sefydliad sy'n rheoli'r pwynt ailgylchu.
Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i un o'r cyfleusterau hyn ac mae angen i chi gael gwared â'r rhain gartref, rhowch nhw yn eich bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.