Ymgyrch ‘Mae Cŵn yn Glyfar’
Rydyn ni’n ymwybodol mai lleiafrif o berchnogion sy’n dal i beidio â chodi baw eu cŵn. Hoffem gael eich help i annog perchnogion i dderbyn y cyfrifoldeb am lanhau baw eu cŵn.
Rydyn ni’n gwybod eisoes fod cŵn yn glyfar. Ers canrifoedd, maent wedi bod yn anifail gwaith, ac wedi’u hyfforddi i gyflawni nifer o dasgau, yn cynnwys corlannu defaid ac arogli cyffuriau a ffrwydron. Ond hyd yn hyn, dydyn ni ddim wedi llwyddo i’w dysgu sut i godi eu baw eu hunain, a dyma pryd gallwch chi berchnogion/cerddwyr gofalgar gamu i’r adwy.
Os ydych chi’n berchen ar gi, neu’n gyfrifol am un, sicrhewch eich bod bob amser yn:
- Mynd â bagiau gyda chi wrth fynd am dro
- Codi baw eich ci
- Taflu’r gwastraff i unrhyw un o finiau ysbwriel y Cyngor