Cost of Living Support Icon

Meysydd Parcio Canol Trefi

Gwybodaeth a chostau parcio ym maes parcio Neuadd y Dref y Bont-faen a maes parcio Wyndham Street.

 

Rhaid arddangos tocyn dilys neu mae’n rhaid i’r cerbyd fod wedi’i gofrestru drwy’r Ap / Paybyphone ar gyfer pob tariff gan gynnwys yr oriau a geir am ddim (ac eithrio ar ddydd Sul a deiliaid Bathodyn Glas).

 

Codir tâl am barcio mewn dau faes parcio yng nghanol y dref ym Mro Morgannwg o ddydd gwener 12 Ebrill 2024. Mae'r taliadau hyn yn berthnasol ym maes parcio Neuadd Y Bont-faen a maes parcio Wyndham Street (Y Barri).

 

Codir tâl am barcio rhwng 8am a 6pm, 6 diwrnod yr wythnos.

 

Car park prices
 HydY gost
Dydd Llun - Dydd Sadwrn  0 - 2 awr  Am ddim
   2 - 4 awr  £2.50
  Drwy’r dydd £6.50
Dydd Sul Drwy’r dydd Am ddim
Deiliaid Bathodyn Glas  Drwy’r dydd Am ddim
Beiciau modur  Drwy’r dydd Am ddim

 

Sut i Dalu

Gellir defnyddio arian mân neu gerdyn (digyffwrdd neu sglodyn a phin) i dalu am barcio.

 

PayByPhone logoTalu dros y Ffôn

Gallwch lawrlwytho’r app o www.paybyphone.co.uk, Google Play a’r Apple App Store. Mae’r app yn cynnwys map sy’n galluogi gyrwyr i ddod o hyd i le parcio cyn iddynt adael ar eu taith.

 

Gall gyrwyr binio lleoliad eu cerbyd i’r map ar ôl parcio ac mae’r nodwedd parcio cyfagos yn rhoi’r rhif lleoliad parcio PayByPhone agosaf.

 

Apple-Store
google-play