Gwybodaeth gyffredinol a Meini Prawf
Darperir cynlluniau parcio preswylwyr ar strydoedd lle nad oes gan y rhan fwyaf o breswylwyr ddewis arall ond parcio eu cerbydau ar stryd ‐ a lle mae'r stryd yn destun parcio trwm gan bobl nad ydynt yn breswylwyr, fel siopwyr, cymudwyr neu ymwelwyr â chyfleusterau cyhoeddus
Fel arfer, bydd y Cyngor yn ystyried cynlluniau parcio preswylwyr safonol yn ôl y meini prawf gweithredol isod neu fel y nodir yn y Polisi Rheoli Parcio I Breswylwyr.
-
Caiff ceisiadau am gynlluniau parcio i breswylwyr eu hasesu ar sail yr amodau parcio yn ystod wythnos nodweddiadol.
-
Ar ôl derbyn cais am gynllun parcio preswylwyr, rhaid i lefel y parcio ar gyfartaledd gyrraedd neu ragori ar 75% o’r gofod parcio sydd ar gael.
-
Gan ddibynnu ar amgylchiadau a lleoliadau penodol, gellir cynnal arolygon yn ôl yr angen i werthuso nifer y mannau parcio sydd ar gael.
-
Os cyrhaeddir 75% o’r gofod parcio, bydd angen cynnal ymgynghoriad â thrigolion lleol a chynghorwyr wardiau i ganfod a oes cefnogaeth gyffredinol i gyflwyno cynllun.
-
Os oes digon o gefnogaeth, yna bydd cynllun manwl yn cael ei gynllunio ar gyfer ymgynghori pellach.