Cost of Living Support Icon

Trwyddedau Parcio i Drigolion

Gallwch chi wneud cais am drwydded barcio i drigolion os ydych chi’n byw mewn stryd lle mae cynllun parcio i drigolion yn bodoli, neu gyfyngiadau amser ar barcio ac eithrio trigolion. 

 

Nodwch: nid yw trwyddedau parcio preswyl a thrwyddedau parcio i ymwelwyr yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig. Cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw adnewyddu’r trwyddedau cyn iddynt ddod i ben.  I adnewyddu eich trwydded, ail-ymgeisiwch ar-lein neu drwy'r post.

 

Rhaid i gerbydau beidio â bod yn fwy na 2.44m (8 troedfedd) o uchder a 5.49m (18 troedfedd) o hyd.

 

Mae trwyddedau parcio preswylwyr yn flynyddol ac yn ddilys tan ddiwedd y mis cyhoeddi y flwyddyn ganlynol (h.y. os gwnaethoch gais ar 02 Ebrill 2024, byddai’r drwydded yn dod i ben ar 30 Ebrill 2025).

 

Rhaid i ddeiliaid trwyddedau parcio i drigolion sicrhau bod: 

  • Cyfrifoldeb deiliaid y drwydded yw adnewyddu eu trwyddedau cyn iddynt ddod i ben
  • Gallai methu ag arddangos trwydded ddilys arwain at hysbysiad tâl cosb (HTC)

Gall preswylwyr wneud cais am un drwydded ymwelwyr fesul cartref a dim ond ar gyfer parcio byrdymor y gellir ei defnyddio. 

 

Rhaid i ddeiliaid trwyddedau parcio preswylwyr sicrhau:

  • Bod y drwydded yn cael ei harddangos yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd fel y gellir ei darllen o'r tu allan i'r cerbyd

  • Bod y drwydded yn ddilys ac nad yw wedi dod i ben

  • Bod y rhif cofrestru a'r stryd yn gywir

 

Mae gan bob trwydded hologramau ac fe'u rhoddir gan ddefnyddio ysgrifbin arbennig gydag inc sy'n gwrthsefyll pylu a dŵr. Bydd eich trwydded yn dangos y stryd/parth y mae’r drwydded yn ddilys ar ei gyfer gan gynnwys rhif cofrestru’r cerbyd a'r dyddiad dod i ben. Bydd unrhyw farciau neu ymgais arall i ddifwyno'r drwydded yn ei gwneud yn annilys yn awtomatig a gall y Swyddog Gorfodi Sifil gymryd camau a chyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

 

Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio mewn mannau parcio dynodedig i breswylwyr ac ardaloedd/parthau am uchafswm o 3 awr yn ystod oriau rheoledig yn amodol ar arddangos y cloc amser a chydymffurfio â phob amod arall y cynllun Bathodyn Glas.

 

Darllenwch y Polisi Rheoli Parcio Preswylwyr i gael y manylion llawn.

 

Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais

I wneud cais am drwydded rhaid i chi brofi eich bod yn byw yn y cyfeiriad a’ch bod yn berchen ar y cerbyd neu’n cael defnyddio’r cerbyd. Cofiwch amgáu copi o'ch tystiolaeth sy’n dangos eich bod yn byw yn y cyfeiriad ac yn berchen ar y cerbyd.

 

Gwnewch gais ar-lein am drwydded. Derbynnir ceisiadau drwy'r post, ond maent yn cymryd mwy o amser. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol gyda'ch cais drwy'r post.  

 

I brofi eich bod yn byw yn y cyfeiriad rhaid cyflwyno un o'r canlynol:

  • Llyfr Rhent Swyddogol / Cytundeb Tenantiaeth (wedi'i lofnodi gan y landlord)
  • Cyfriflen Banc neu Gymdeithas Adeiladu (dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf).
  • Bil Treth Gyngor neu Fil Trydan/Nwy/Dŵr (sy’n cwmpasu’r cyfnod o 3 mis cyn y cais)
  • Llythyr gan gyfreithiwr yn cadarnhau eich bod wedi prynu eiddo

 

I brofi eich bod yn berchen ar y cerbyd neu'n cael defnyddio'r cerbyd, rhaid cyflwyno un o'r canlynol:

  • Dogfen cofrestru’r cerbyd - (llyfr log / V5)
  • Tystysgrif yswiriant modur - (yn dangos enw a rhif cofrestru’r cerbyd)
  • Llythyr gan gwmni prydles neu gyflogwr

 

Gwneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr

 

Cofiwch: 

  • Gall unrhyw un sy'n byw yn y breswylfa wneud cais am drwydded parcio preswylwyr ar gyfer cerbydau sydd wedi’u neilltuo iddynt yn y cyfeiriad hwnnw

  • Rhaid defnyddio trwyddedau ar gerbydau ac yn y strydoedd/parthau y’u rhoddwyd ar eu cyfer yn unig.

  • Os ydych yn byw mewn eiddo cornel sy'n ffinio â dwy stryd sydd â threfniadau parcio preswylwyr, gallwch ddewis pa stryd/parth yr hoffech ddefnyddio'r drwydded ar ei gyfer 

  • Mae trwyddedau'n ddilys am flwyddyn a rhaid eu hadnewyddu'n flynyddol

 


Gwneud cais am Drwydded Flynyddol Parcio i Drigolion


Neu fel arall, lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais a'i dychwelyd trwy'r post gan gynnwys amlen â chyfeiriad wedi'i stampio i:

 

Cyngor Bro Morgannwg,

Yr Alpau,

Heol Chwarel yr Alpau,
Gwenfô,
CF5 6AA

 

 

Gwneud cais am Drwydded Parcio Ymwelwyr

 

Cofiwch:

  • Rhaid rhoi’r drwydded i ymwelwyr wrth gyrraedd i’w harddangos yn eu cerbyd yn ystod eu harhosiad

  • Dim ond un drwydded ymwelwyr a ganiateir fesul cyfeiriad

  • Mae’r drwydded yn ddilys am flwyddyn a rhaid ei hadnewyddu'n flynyddol.

 


Gwneud cais am Drwydded Ymwelydd


Neu fel arall, lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais a'i dychwelyd trwy'r post gan gynnwys amlen â chyfeiriad wedi'i stampio i:

 

Cyngor Bro Morgannwg,

Yr Alpau,

Heol Chwarel yr Alpau,
Gwenfô,
CF5 6AA

 

 

 

Trwyddedau Parcio Newydd - Trwyddedau a Gollwyd neu a Ddinistriwyd yn Unig

 

Os yw eich trwydded parcio yn ddilys o hyd ond ei bod:

  • Ar goll

  • Wedi’i dwyn

  • Wedi'i dinistrio'n ddamweiniol

Gallwch wneud cais am drwydded newydd ar-lein

 

 

Os oes angen i chi adnewyddu trwydded barcio, bydd yn rhaid i chi wneud cais eto yn llawn ar-lein neu trwy'r post.

 

  • Pwy all wneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr ac a oes cyfyngiad fesul aelwyd?

 

  • A allaf wneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr ar gyfer car cwmni?
  • Pwy all wneud cais am drwydded ymwelwyr ac a oes cyfyngiad ar nifer y trwyddedau y gallwch wneud cais amdanynt?
  • Nid oes byth unrhyw leoedd gwag ger fy nhŷ, a allaf barcio yn y stryd nesaf?
  • A oes cyfyngiad o ran maint cerbydau?
  • Os byddaf yn newid fy ngherbyd a fydd fy Nhrwydded Parcio Preswylwyr yn ddilys o hyd?
  • Beth sy'n digwydd os bydd gwaith yn cael ei wneud ar fy nhŷ?
  • A fydd trwydded barcio yn gwarantu'r hawl i mi barcio y tu allan i'm tŷ?
  • Sut mae'r cynllun yn cael ei orfodi?
  • A allwn ni gael Cynllun Parcio Preswylwyr yn ein stryd ni?

 

 

Mae darpariaeth trwyddedau parcio i drigolion yn eithrio datblygiadau tai newydd yn benodol, am fod disgwyl i barcio addas fod ar gael ar y safle.