Cost of Living Support Icon

Prisiau Meysydd Parcio’r Arfordir 

Cyngor Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am gasglu taliadau mewn nifer o feysydd parcio ar yr arfordir

 

Mae prisiau dyddiol yn gymwys yn y meysydd parcio isod. Gall cerbydau sy’n arddangos bathodyn anabledd dilys barcio’n rhad ac am ddim. Mae'r prisiau yma yn gymwys trwy'r flwyddyn*, dydd Llun i ddydd Sul, yn cynnwys Gwyliau'r Banc.

 

Trwyddedau Parcio Arfordirol

Mae hawlenni arfordirol ar gael i'w prynu yn:

  • £60 am 6 mis

  • £100 am 12 mis

Mae tocynnau tymor ar gyfer ardaloedd arfordirol yn ddilys i'w defnyddio mewn unrhyw faes parcio arfordirol y codir tâl ynddo ym Mro Morgannwg.

 

I wneud cais ar-lein, dewiswch ‘Incwm Arall’, ‘Trwyddedau Parcio Arfordir a Gwlad’ a’ch trwydded ddewis:

 

Gwneud cais ar-lein

 

Sylwer: Nid yw Trwyddedau Parcio Arfordirol yn drosglwyddadwy. Codir tâl £25.00 am drwyddedau coll neu i’w hamnewid ac am newid cofrestriad cerbyd. 

 

 

Ffioedd Parcio Ceir

Mae'r prisiau'n berthnasol i'r lleoliadau canlynol:

  • Harbour Road, Ynys Y Barri (Prif Barcio a Gorlif)
  • Nell's Point, Ynys Y Barri 
  • Cymlau/Clifftop, Southerndown
  • Brig-Y-Don, Southerndown
  • Rivermouth, Aberogwr (parcio rhwng 07:00 a 23:00 o'r gloch)

 

parking
 Amser ParcioCeir*(08:00hrs to 16:00hrs)

Hyd at 2 awr

£2

Hyd at 4 awr

£4

Hyd at 6 awr 

£6

Trwy'r dydd

£8

 

Ddeiliaid bathodyn glas

Bydd rhaid i ddeiliaid bathodyn glas wneud cais am drwydded rhithiol am ddim.

 

Bydd y drwydded rithwir yn caniatáu ychwanegu un rhif cofrestru car fesul pob bathodyn glas at y feddalwedd ar gyfer Aberogwr yn unig. Bydd hyn yn rhybuddio'r bolard i ostwng yn awtomatig wrth adnabod plât cofrestru cerbydau.

 

Gall unrhyw ddeiliaid bathodyn glas mewn cerbyd anghofrestredig ddefnyddio’r intercom i adael trwy wasgu 1 yna'r botwm galw. Bydd angen i ddeiliaid bathodyn glas anghofrestredig gael eu bathodyn glas gyda nhw fel prawf i adael yn rhad ac am ddim.

 

 

I gofrestru eich prif gerbyd am drwydded rithwir am ddim, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01446 700111 neu e-bostiwch contactonevale@valeofglamorgan.gov.uk

 

Beiciau modur

Ar hyn o bryd mae beiciau modur unigol yn cael parcio am ddim yn ein holl feysydd parcio arfordirol.

 

Ffioedd Parcio Bysus/Coetsis 

parking
LleoliadBws/ bws moethus 
(08:00hrs to 23:00hrs)

Harbour Road, Ynys Y Barri 

(Prif Barcio a Gorlif)

N/A

Nell's Point, Ynys Y Barri

Trwy'r dydd: £35

Cymlau/Clifftop, Southerndown

Trwy'r dydd: £35

Brig-Y-Don, Southerndown

Trwy'r dydd: £35

 

Ni chaniateir mynediad i fysiau na choetsis ym maes parcio Rivermouth oherwydd cyfyngiadau o ran lled a hyd.

  

 

Talu gydag Arian Parod a Cherdyn

Mae pob Peiriant Talu ac Arddangos o fewn Bro Morgannwg yn derbyn arian parod a thaliad cerdyn gan gynnwys digyffwrdd.

 

Cyn bo hir byddwn yn cyflwyno taliadau Google ac Apple i'r peiriannau ond ar hyn o bryd nid ydynt yn derbyn y mathau hynny o daliad.

 

Sicrhewch eich bod yn rhoi'r arian cywir gan nad yw'r peiriannau parcio yn rhoi newid.

 

  • Rhowch Rif Cofrestru’ch Cerbyd 

  • Rhowch yr arian i mewn am y cyfnod parcio

  • Pwyswch y Botwm Gwyrdd am y tocyn, a rhowch y tocyn wyneb i fyny ar y dashfwrdd

PayByPhone logoTalu dros y Ffôn

Gallwch lawrlwytho’r app o www.paybyphone.co.uk, Google Play a’r Apple App Store. Mae’r app yn cynnwys map sy’n galluogi gyrwyr i ddod o hyd i le parcio cyn iddynt adael ar eu taith.

 

Gall gyrwyr binio lleoliad eu cerbyd i’r map ar ôl parcio ac mae’r nodwedd parcio cyfagos yn rhoi’r rhif lleoliad parcio PayByPhone agosaf.

 

Apple-Store
google-play

 

Sylwch: Nid yw ap Talu trwy Ffôn ar gael ar hyn o bryd ym Maes Parcio Aberogwr. Talwch drwy beiriant neu drwy brynu trwydded parcio arfordirol. Bydd angen i ddeiliaid Bathodyn Glas gofrestru i gael defnydd am ddim drwy'r System Adnabod Plât Rhif Awtomatig (ANPR). Os nad ydych wedi cofrestru, canwch y gloch i gael sylw. 

Hysbysiad Cosb 

Dylid parcio cerbydau yn unol â’r gorchymyn parcio cyfredol. 

Mae copi ar gael i’w archwilio ar eich cais. O fethu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau isod, gellid cyhoeddi:

  •  Hysbysiad Tâl Cosb (hyd at £70) neu Hysbysiad o Fwriad i Erlyn gan swyddogion gorfodaeth ddinesig Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr neu
  • Hysbysiad Cosb Penodedig gan Heddlu De Cymru. 

 

Telerau ac Amodau

Gellid cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb, Hysbysiad Bwriad i Erlyn neu Hysbysiad Cosb Penodedig os yw:


a) Cerbyd yn parcio heb arddangos tocyn talu a pharcio dilys na Bathodyn Glas.

b) Cerbyd ddim wedi’i barcio o fewn ffiniau cilfach parcio, neu os yw’n achosi rhwystr.

c) Cerbyd wedi’i barcio mewn cilfach a ddynodir i bobl ag anabledd heb arddangos Bathodyn Glas dilys. 

 

Dylai gyrwyr nodi’r wybodaeth isod yn ogystal:

  1. Ni ellir trosglwyddo tocynnau.
  2. Rhaid prynu tocyn dilys a’i adael y tu mewn i’r cerbyd mewn man lle gall y dyddiad a’r amserau cyrraedd a gadael gael eu gweld yn glir gan swyddogion gorfodaeth o’r tu allan i flaen y cerbyd.
  3. Gwiriwch fod eich tocyn wedi’i arddangos yn glir cyn i chi adael y cerbyd.
  4. Y gyrrwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod y tocyn yn weladwy yn y modd hwn drwy gydol y cyfnod mae’r cerbyd wedi’i barcio yn y gilfach.
  5. Mae pob tocyn a brynir yn ddilys ar gyfer y diwrnod y’i prynwyd yn unig.
  6. Ni chaniateir gwersylla dros nos (mewn pabell na fan wersylla), coginio na chynnau tân / barbeciw ar unrhyw adeg.
  7. Ni ddylid parcio unrhyw gerbyd y tu hwnt i’r rhes o gerrig sy’n sefyll ym maes parcio Rivermouth.
  8. O fethu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau uchod, gellid cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb neu Hysbysiad o Fwriad i Erlyn gan swyddogion gorfodaeth dinesig Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, neu Hysbysiad Cosb Penodedig gan Heddlu De Cymru.

 

Nid yw’r Cyngor, ei weision na’i asiantau’n gyfrifol am unrhyw golled neu niwed, sut bynnag yr achosir hyn i berson neu gerbyd, yn cynnwys ei ategolion a’i gynnwys, wrth fynd i mewn i’r maes parcio, yn y maes parcio nac wrth adael.