Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Y Cymorth a Gynigir:
Cymorth emosiynol a chyngor
Cyfeirio – fel gwasanaethau cyffuriau ac alcohol
Cynnal a chadw’r cartref a rheoli tenantiaeth
Cyllidebu, cyngor ar fudd-daliadau, gwneud y mwyaf o incwm a rheoli arian
Datblygu sgiliau byw a chartref ymarferol
Cynhwysiant cymunedol - lleihau unigedd ac unigrwydd
Help gyda llety
Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu sesiynau 'galw heibio' penodol sydd ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth ar unwaith i:
- atal digartrefedd,
- delio ag argyfwng tai,
- help gyda chyllidebu a
- dryswch budd-daliadau lles
Rydym hefyd yn cynnig tai â chymorth a chymorth yn ôl yr angen ym Mro Morgannwg.
Rydym yn cefnogi unigolion i ddatblygu’r sgiliau i reoli a chynnal a chadw cartref yn y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol.
Mae’r prosiect yn cynnig cymorth a chyfleoedd i fanteisio ar hyfforddiant, gwirfoddoli a datblygu sgiliau sydd eu hangen i fod mewn cyflogaeth.
Isod ceir rhestr o wasanaethau 'galw heibio' ym Mro Morgannwg. Am oriau agor a gwybodaeth bellach, cysylltwch â nhw ar y rhifau a ddarperir.
One Stop Cymorth Tai Y Fro
01446 502894