Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd RCCs yn dod â rhanddeiliaid allweddol ar draws pob ardal ynghyd. Mae hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cynllunio a chomisiynu Cefnogi Pobl yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o Grant Cefnogi Pobl ac yn ateb anghenion lleol. Mae’r RCC yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, iechyd, profiannaeth, darparwyr gwasanaethau Cefnogi Pobl a landlordiaid ac mae hefyd yn cynnwys barn defnyddwyr gwasanaeth.
Mae Pwyllgor y Fro a Chaerdydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar wariant Cefnogi Pobl yn ei ardal.. Mae’n gyfrifol am gynhyrchu Cynllunio Comisiynu Rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau Cefnogi Pobl. Mae hyn yn rhoi sylw i flaenoriaethau lleol ac yn nodi’r ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer ateb anghenion lleol. Mae'n ymgynghorol yn unig ac nid oes ganddo bwerau gweithredol neu gyllid.
https://llyw.cymru/rhaglen-cefnogi-pobl-canllawiau-ymarfer
I gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cydweithredol y Fro a Chaerdydd cysylltwch â:
Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol - Cefnogi Pobl
Tîm Cefnogi PoblCyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holton
y Barri
CF63 4RU