Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (GRhD)
Mae gorchymyn rhyddhau o ddyled yn orchymyn y gallwch wneud cais amdano os na allwch fforddio talu eich dyledion. Caiff ei roi gan y Gwasanaeth Ansolfedd ac mae’n ddewis rhatach na mynd yn fethdalwr. Fel arfer, mae gorchymyn rhyddhad o ddyled yn parhau am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ni all yr un o'r bobl sydd ag arian yn ddyledus iddynt gymryd camau i gael eu harian yn ôl. Ar ddiwedd y flwyddyn, mae’r dyledwr yn cael ei ryddhau o'r holl ddyledion a restrir (ac sydd wedi’u cynnwys) yn y gorchymyn.
I gael GRhD, rhaid i chi gael:
- Dyledion o £15,000 neu lai ar y dyddiad pan fydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Derbynnydd Swyddogol (nid yw dyledion a eithrir yn cael eu cyfrif yn y cyfanswm hwn)
- Bod ag incwm ar gael, ar ôl talu costau arferol y cartref, o £50 y mis calendr neu lai
- Bod ag asedau sydd â gwerth gros o £300 neu lai. Anwybyddir cerbydau sy'n werth llai na £1,000 pan gaiff asedau eu prisio. Fodd bynnag, gall gwerth cerbyd sy'n fwy na £1,000, ond sydd wedi cael ei addasu ar gyfer y cleient i’w ddefnyddio oherwydd anabledd, gael ei anwybyddu.
I wneud cais am GRhD, bydd angen i chi gysylltu ag ymgynghorydd awdurdodedig sy'n gwirio a ydych yn bodloni'r amodau, ac a fydd wedyn yn gwneud cais am y gorchymyn ar eich rhan. Bydd y gorchymyn yn costio £90 ond gallwch ei dalu mewn rhandaliadau dros chwe mis.
Os yw eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael GRhD o fewn y cyfnod o flwyddyn, yna gallai eich GRhD gael ei ddiddymu, ac fe allech golli eich ffi o £90. Effeithir ar eich statws credyd.
Canllawiau Cyngor: Gorchmynion Rhyddau o Ddyled
Llinell Ddyled Genedlaethol: Taflenni Ffeithiau Gorchymyn Rhyddau o Ddyled
BIS: Cyhoeddiadau Ansolfedd