Gallu ariannol
Mae cyngor ar ddyledion yn ffurfio rhan o faes cynghori sy'n dod i'r amlwg a elwir yn allu ariannol. Yn y bôn, mae gallu ariannol yn golygu'r gallu i reoli eich arian mor effeithiol â phosibl ac felly gwneud gwell penderfyniadau ariannol ar gyfer eich hun a'ch teulu. Bwriad addysg gallu ariannol yw lleihau lefel y ddyled yn y dyfodol ac, yn arbennig, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n fras yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Cadw golwg – gwybod beth yw eich incwm a lle mae'n cael ei wario
Cael dau ben llinyn ynghyd – Cydbwyso’r gyllideb, yn enwedig mewn wythnos neu fis drud
Cynllunio Ymlaen – Ble ydych chi yn eich bywyd nawr a ble ydych chi eisiau bod? Ydych chi'n ystyried priodi, cael plant neu brynu eich cartref cyntaf?
Dewis Cynhyrchion Ariannol – Os ydych yn prynu cartref neu gynnyrch ariannol, a ydych yn cael y fargen orau posibl sy'n diwallu eich anghenion?
Aros yn Wybodus – Mae cynhyrchion ariannol yn newid ac yn datblygu drwy'r amser. Er enghraifft, a yw eich cyfrif banc yn dal i weithio i chi?
Ceir llawer mwy o wybodaeth am allu ariannol yn y DU, a’r diffiniad newydd o hyn sy’n ystyried ein hagweddau at arian a’n cyfleoedd ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.