Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth
Nid oes gan gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth unrhyw bwerau neu gosbau arbennig a all arwain yn uniongyrchol at garchar, troi allan, adfeddiannu neu ddatgysylltu. Er mwyn adennill eu dyledion gan gwsmeriaid sy’n methu talu, y camau eithaf i gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth yw defnyddio'r broses hawliad llys sirol. Gallant ddefnyddio asiantau casglu dyledion i geisio casglu dyledion, sy'n cynnwys llythyrau, llythyrau cyfreithwyr, ymweliadau cartref a galwadau ffôn. Efallai y byddant yn codi llog a thaliadau ychwanegol unwaith y bo’r cyfrif mewn dyled.
Os yw credydwr yn penderfynu cymryd camau yn y llys sirol yn erbyn cleient, byddant yn cyhoeddi hawliad yn erbyn y cleient mewn Llys Sirol. Bydd hyn yn arwain at Ddyfarniad Llys Sirol (CCJ).
Os yw'r credydwr eisoes wedi derbyn dyfarniad llys ac yn dal ddim yn talu yn sgil hwnnw, efallai y bydd y credydwr yn gallu cymryd camau gorfodi neu wneud y dyledwr yn fethdalwr, a allai gael canlyniadau mwy difrifol. Er enghraifft, os bydd y cleient yn berchennog tŷ, gall fod mewn perygl o golli ei gartref. Mae camau gorfodi yn cynnwys:
Os yw hawliad wedi cael ei gyhoeddi neu fod eich cleient yn gofyn am gyngor ynghylch unrhyw gam gorfodi, dylid cyfeirio’r cleient am gyngor ar ddyledion.
Am ragor o wybodaeth ynghylch dynodi p’un a yw dyled yn flaenoriaeth neu ddyled nad yw’n flaenoriaeth, ewch i wefan Canllawiau Cyngor a gwefan y Llinell Ddyled Genedlaethol.