Taliadau a Dirwyon Parcio
Os derbynnir dirwy barcio ar ffordd gyhoeddus a honno heb ei thalu pan gyflwynwyd hi gan yr heddlu bydd hyn yn arwain at gael yr arian drwy’r llys ynadon ac felly rhoddir blaenoriaeth i’r ddyled.
Os mai'r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflwyno'r ddirwy barcio ar ffordd gyhoeddus ac ni chaiff ei thalu, yna gall yr awdurdod lleol gofrestru’r ddirwy gyda’r Ganolfan Orfodi Traffig yn Nottingham a chasglu’r swm dyledus fel pe tai yn Ddyfarniad gan y Llys Sirol. Mae hon felly yn ddirwy nad yw’n flaenoriaeth.
Os derbynnir dirwy barcio ar eiddo preifat, un ai drwy barcio heb ganiatâd neu am aros yn rhy hir, gellir adennill hwn drwy’r Llys Sirol. Ni chaiff cwmnïau parcio glampio ceir mwyach yn y sefyllfa hon.
Am ragor o wybodaeth ewch i gyngor defnyddiol y Canllaw Cynghori Taflen Gwybodaeth Parcio ar ddirwyon parcio sy'n gwahaniaethu rhwng y rhai hynny sy'n cael eu rhoi gan yr heddlu, yr awdurdod lleol a'r rhai hynny ar eiddo preifat.
If a parking fine on a public road is incurred and not paid where the police are responsible this will be recovered in the magistrates court and is therefore a priority debt.