Cymorth yn ôl yr Angen
Mae cymorth yn ôl yr angen yn gymorth a roddir i’r defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref ei hun gan weithiwr cymorth. Mae gwasanaethau ar gael i denantiaid a pherchnogion tai.
Sut mae gwneud cais am y gwasanaeth hwn?
Gallwch eich atgyfeirio eich hun neu ofyn i rywun arall eich atgyfeirio am gymorth yn ôl yr angen.
Os penderfynwch eich bod am gael eich atgyfeirio at wasanaeth cymorth yn ôl yr angen, gofynnir i chi gwblhau ffurflen, ar eich pen eich hun neu gyda’n cymorth ni. Bydd hyn yn galluogi’r tîm i benderfynu a oes angen cymorth arnoch a pha Ddarparwr Cymorth fyddai orau i ddelio â’ch anghenion.
Os ydych eisiau eich atgyfeirio eich hun, cysylltwch â Cefnogi Pobl i wneud cais am gopi caled o’r ffurflen atgyfeirio Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai. Neu gallwch ei lawrlwytho yma:
Ffurflen Atgyfeirio a Risg Cymorth Cysylltiedig â Thai
Cwblhewch y ffurflen uchod a’i dychwelyd i Cefnogi Pobl.
Os ydych yn gysylltiedig â’r gwasanaeth digartrefedd bydd eich Swyddog Digartrefedd dynodedig yn cwblhau atgyfeiriad ar eich rhan.
Gwasanaeth Larwm
Mae'r cyngor yn gweithredu cynllun larwm argyfwng. Mae’n rhoi cymorth i bobl gartref gyda help technoleg a gwasanaethau ymateb cymunedol. Gall tenantiaid y Cyngor gael mynediad at wasanaethau ychwanegol am gost – i gael gwybod mwy ewch i Gwasanaethau Larwm Telecare (valeofglamorgan.gov.uk)
Cysylltwch â:
Tîm Cefnogi Pobl
Tai Sector Cyhoeddus
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU
01446 709793
supportingpeople@valeofglamorgan.gov.uk