Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae'n bwysig bod y data rydym yn ei chadw am ein trigolion yn gywir a’i bod yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae cael data cyfredol ar ein systemau am ein trigolion yn ofyniad cyfreithiol ond gall hefyd ein helpu i gynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl yn y dyfodol.
Er enghraifft, os oes angen cymorth ar ein trigolion, gallem gynnig cymorth iddynt, ond os nad oes gennym y data hwnnw byddai'n anodd cynllunio a theilwra'r cymorth hwnnw ar gyfer ein trigolion. Enghraifft arall posibl yw cael y cyfeiriad e-bost cywir i sicrhau bod ein trigolion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar unwaith pan fydd newidiadau'n digwydd.
Mae cael y wybodaeth gywir ar yr amser cywir yn hanfodol nid yn unig i'n helpu ni gynllunio ond hefyd i ddarparu gwasanaethau effeithiol i’n trigolion.
Fe wnaethom gysylltu â thrigolion i wirio a yw'r data cyfredol sydd gennym amdanynt ar y system yn gywir ac a oes angen ychwanegu unrhyw fanylion ychwanegol megis dyddiadau geni neu, rifau ffôn symudol ychwanegol ynghyd â'r dull o gysylltu a ffefrir gan y trigolion, er enghraifft.
Gallwch fod yn siŵr y bydd y wybodaeth yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a chaiff ond ei defnyddio i gynllunio a helpu i wella gwasanaethau. Ni fydd Cartrefi'r Fro yn darparu'r wybodaeth hon i drydydd partïon.
Byddwn yn edrych i ddechrau cam 2 yn 2024 - mae hyn yn golygu bod agen i chi fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich data personol a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am hyn yn fuan.