Mae cyllid grant BIP Caerdydd a’r Fro gan Lywodraeth Cymru, at ddibenion gwella iechyd wedi caniatáu i Gartrefi’r Fro ddatblygu Gwerth yn y Fro. Fel y cynllun Bancio-Amser fel ag yr oedd yn y Fro, mae’r wefan yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli mewn sefydliadau lleol ac yn gyfnewid yn eu gwobrwyo am eu hamser.
Wrth gynnig gwobrau i wirfoddolwyr, mae hyn wedi mynd i'r afael i ryw raddau â'r argyfwng costau byw, lleihau ynysigrwydd cymdeithasol a chynnig lle cynnes i wirfoddolwyr ymweld ag ef yn ystod eu rolau gwirfoddoli ac wrth hawlio’u gwobrau os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Lansiwyd y wefan fis Hydref 2022 ac mae’n siop un stop ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau partner. Mae'n rhoi manylion cyfleoedd gwirfoddoli, yn caniatáu i sefydliadau recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhoi i bobl sydd wedi treulio amser yn gwirfoddoli yr opsiwn i gyfnewid gwobrau am eu hamser. Gall gwobrau fod yn unrhyw beth o baned o goffi a darn o gacen i driniaeth harddwch neu barsel o bethau ymolchi ac mae gan bob gwirfoddolwr yr opsiwn o 'roi ymlaen' eu gwobrau os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Y gwahaniaeth rhwng Gwerth yn y Fro a'r hen gynllun bancio amser yw bod hwn yn economi gylchol. Mae'r holl gyfleoedd a'r gwobrau gwirfoddoli gyda sefydliadau sydd wedi eu lleoli ym Mro Morgannwg.
Mae'r tîm y tu ôl i Gwerth yn y Fro hefyd wedi partneru gyda chyrsiau yn y Fro i roi'r opsiwn i wirfoddolwyr ddilyn cwrs hyfforddi achrededig am ddim – Cyflwyniad i Wirfoddoli. Ac ynghyd â grŵp gwirfoddoli Cyfeillion Digidol, grŵp gwirfoddoli Cartrefi’r Fro eu hunain, rydym hefyd yn gallu darparu hyfforddiant digidol mwy anffurfiol yn ein Canolfan yn Aberaeron Close, y Barri.
Yn seiliedig ar adborth gan wirfoddolwyr presennol, rydym wedi partneru gyda busnesau lleol gwych i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a gwobrau sy'n union ar stepen ein drws. Mae'r cynllun hwn hefyd ar agor i'r cyhoedd felly gall unrhyw un gymryd rhan.