Cost of Living Support Icon

Digwyddiadau Cymunedol

Mae Tîm Buddsoddi Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio ochr yn ochr â thenantiaid a thrigolion i ddatblygu a gwella mentrau cymunedol. 

Clwb Beicio'r Barri

Cyflwynwyd y Clwb Beicio am y tro cyntaf yn ardal chwarae Tŷ Iolo, drwy’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Yn anffodus, daeth i ben yn 2020 oherwydd y pandemig.

Parhaodd y Tîm Cyfoethogi Cymunedau â'r bartneriaeth lwyddiannus gyda Pedal Power (sefydliad beiciau elusennol lleol yng Nghaerdydd), a llwyddodd swyddogion o'r elusen hyrwyddo a chynnal sesiynau beicio drwy gydol y gwanwyn a'r haf.

Cynhelir sesiynau Clwb Beicio bob dydd Mawrth rhwng 4.00pm a 5.30pm a chaiff plant ifanc rhwng 6-10 oed ddysgu beicio mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.

Mae peth o'r adborth a'r sylwadau gan y cyfranogwyr yn cynnwys:

  • “Rwy’n gallu reidio beic nawr heb gymorth ac mae gen i fwy o hyder";
  • “Roeddwn i mor hapus gyda menter y Clwb Beicio, gwnaeth fy mab elwa cymaint ohono, diolch o galon";
  • “Mae fy mab a'm merch bellach yn gallu reidio beic heb gymorth ac maen nhw wedi magu hyder dros yr haf”.

barry bike club 2024 part 2

Meddai Mark Ellis, Swyddog Cyfoethogi Cymunedau a Buddsoddi, "Mae hwn yn brosiect cymunedol mor wych i'w reoli. Mae gweld plant lleol yn defnyddio eu man agored lleol i ddysgu reidio beic yn anhygoel ac yn cysylltu â pholisi Newid Hinsawdd y cyngor.

 

Cynllun Crawshay yn cynnal picnic dathlu yn yr ardd gymunedol

 

Cynhaliwyd y picnic dathlu blynyddol ar ddydd Mawrth 1 Awst yn Crawshay Court, Llanilltud Fawr. Mae'r tai gwarchod yn gynllun ar gyfer pobl hŷn ac mae'n cael ei redeg gan Cartrefi’r Fro.

 

Mae'r prosiect yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth i gefnogi ein cymuned leol, yn enwedig gyda'r argyfwng costau byw presennol. Mae Cartrefi’r Fro mewn partneriaeth â’r swyddog cymorth cymunedol yr heddlu Rhiannon Cummings yn gallu rhoi cymorth a chyngor i denantiaid a gwirfoddolwyr wrth weithio ar y prosiect. 

Crashway Court Garden Project Garden Bed

 

Mae Cartrefi’r Fro yn arwain ar y prosiect cymunedol hwn gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Vale Plus Extra, Plant Llantwit, Ogi a gwirfoddolwyr cymunedol lleol. Mae'r prosiect gardd yn Crawshay Court yn cynnwys tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer y tenantiaid ac aelodau o'r gymuned fel rhan o Brosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad i gydnabod a diolch i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o sefydlu a chynnal a chadw'r ardd. Cyflwynwyd tystysgrifau o ddiolch i wirfoddolwyr yn y digwyddiad.

 

Rhoddwyd y bwyd picnic yn garedig gan Ogi Cymru sydd wedi bod yn rhoi cymorth i'r prosiect drwy wirfoddoli yn yr ardd a chynorthwyo i ariannu’r gwaith o osod tŷ gwydr poteli plastig.

 

Llun gardd Crawshay gyda wal o ddyluniadau lliwgarMae Vale Plus Extra wedi bod yn rhagorol ac wedi gweithio'n ddiflino ar y prosiect i'w wneud yn gymaint o lwyddiant. Maent wedi cynaeafu pys, moron, ffa gwyrdd, ffa dringo, betys, tomatos, tatws, corbwmpenni, rhosmari, rhuddygl, letys, winwns, shibwns, pwmpenni ac mae'r cynnyrch yn parhau i ffynnu.

 

Mae'r holl gnydau a gynaeafwyd wedi cael eu defnyddio gan denantiaid Cynllun Tai Gwarchod Crawshay, aelodau o Vale Plus a gwirfoddolwyr cymunedol lleol a lluniwyd darlun hyfryd o'r ardd gymunedol a’i gyflwyno yn y digwyddiad i'w arddangos yn y lolfa gymunedol.

 

Dywedodd Mark Ellis, arweinydd gerddi cymunedol y tîm Cyfoethogi Cymunedau "Mae hwn wedi bod yn brosiect hirsefydlog ers cyn Covid ac mae'r gwaith sydd wedi mynd ymlaen gyda phartneriaid yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn wych. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran am wneud i'r ardd edrych mor anhygoel a hardd. 

 

Gwaith ailwampio y tu allan i Gwenog Court yn dod â thenantiaid cynllun gwarchod ac ysgol ynghyd.

Gwenog Court Logo

Yr Ardd Gymunedol - Awst 2022 (mae’r logo yn y llun i'r dde wedi’i ddylunio

gan ddisgybl yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Saint)

Garden Before Pic

Garden Before Pics

Gwenog Court Garden

Garden After Pics

Gan weithio mewn partneriaeth â’r tîm Cyfoethogi Cymunedau a’r Rheolwr Cymdogaethau lleol, datblygwyd cynllun ar gyfer prosiect bioamrywiaeth ar dir Gwenog Court, sy’n ddatblygiad tai gwarchod yn y Barri sy'n cefnogi dros 100 o breswylwyr.

 

Cyn i’r prosiect hwn ddechrau ychydig iawn oedd gan yr ardal i'w gynnig i'r preswylwyr, y disgyblion a'r gymuned leol. Cynhaliwyd proses ymgynghori a dylunio fanwl a oedd â'r nod o wneud yr ardal hon yn enghraifft o'r hyn y gellid ei gyflawni trwy fioamrywiaeth a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd fel rhan o strategaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd Mark Ellis, arweinydd y prosiect, "roedd preswylwyr Gwenog Court yn hapus iawn bod Cam Un y prosiect wedi’i gwblhau. Wrth i ni gamu allan o Covid-19 bydd yr ardd gymunedol yn helpu i leihau unigedd cymdeithasol ac unigrwydd wrth i gyfleoedd godi i'r preswylwyr gael mynediad i'r awyr agored".

 

Dywedodd Georgia Thomas, y Rheolwr Cymdogaeth lleol "Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y gefnogaeth hon diolch i grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.  Bydd y prosiect yn gyfle cyffrous i'r preswylwyr a'r gymuned leol gael mynediad i fyd natur ac ymgysylltu ag ef ar garreg eu drws." O ganlyniad, rydym wedi defnyddio ein cyllid amgylcheddol i gefnogi Cam Dau y prosiect sef datblygu'r gofod cymunedol i'r ysgol leol ei ddefnyddio a fydd yn cael ei lansio ym mis Chwefror 2023".

 

Pod Bwyd Penarth

Mae Pod Bwyd Penarth bellach yn gweithredu o gynhwysydd llongau wedi'i addasu yn ystâd St Luke.

Mae ar agor ar ddyddiau Llun a Gwener rhwng 2pm a 4pm ac ar ddydd Mercher o 3.30pm tan 5.30pm.

Y nod yw helpu cymunedau lleol sydd wedi wynebu heriau mawr yn ystod y pandemig a bydd y pod bwyd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â gwastraff bwyd.

Mae'r cyfleuster yn rhan o raglen Cymdogaeth Llechen Lân y Cyngor, cynllun dwy flynedd i wneud y rhan hon o Benarth yn lanach, yn wyrddach, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig.

 

Hysbyseb Gwirfoddolwyr

 

Mark Ellis

Os hoffech chi wirfoddoli, Cysylltwch â Mark Ellis yn

  • 07826020707
  • markellis@valeofglamorgan.gov.uk

Garddwest Crawshay yn helpu i ddathlu gwirfoddolwyr

Cynhaliwyd garddwest yng Nghynllun Tai Gwarchod Crawshay i ddathlu'r prosiect pontio'r cenedlaethau llwyddiannus rhwng gwirfoddolwyr o Vale Plus Extra, tenantiaid o'r cynllun yn Llanilltud Fawr a phlant o Flwyddyn 5 Ysgol y Ddraig.
Crawshay Garden Party

 

Mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio gyda Thîm Plismona Cymdogaethau Bro Morgannwg drwy gydol yr Haf a'r Hydref. 

 

Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith gwych; plannu, dad-chwynnu, tacluso, dyfrio a gwneud celf a chrefftau ar gyfer yr ardd. Mae pawb wedi gweithio'n wych gyda'i gilydd ac wedi mwynhau plannu'r hadau a'u gwylio yn tyfu. Mae’r tenantiaid wedi gallu mynd â ffrwythau a llysiau gartref ac mae tenantiaid Cynllun Tai Gwarchod Crawshay wedi bod yn mwynhau cynnyrch yn eu digwyddiadau te prynhawn cymdeithasol wythnosol.

 

Nod y prosiect yw atal twyll fasnachwyr rhag targedu aelodau agored i niwed o'n cymuned trwy gynorthwyo tenantiaid a gweithredu fel gwarcheidwaid cymunedol, gan gadw llygad ar breswylwyr ardal Llanilltud Fawr.

 

Crawshay Garden Party Pics

 

Aeth Maer Llanilltud Fawr i’r digwyddiad a chyflwynodd dystysgrifau i'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed i wneud y prosiect yn llwyddiant.  Dywedodd Sheralee Baldwin, cydlynydd y cynllun "Mae mor hyfryd gweld y gwirfoddolwyr yn dod bob wythnos ac yn gwneud gwahaniaeth mor enfawr i'r ardd. Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran yr holl denantiaid sydd wir yn gwerthfawrogi'r gwaith caled wedi’i wneud a'r ardd hardd y maen nhw'n edrych allan arni".

 

Diolch yn fawr i'r Big Fresh Catering Company a ddarparodd y bwffe anhygoel a fwynhawyd gan fwy na 80 o bobl a aeth i’r arddwest.

Gardd Pawb Yn Cynnal Digwyddiad Haf

Ar ôl tymor llwyddiannus o weithgareddau yng Ngardd Pawb, cynhaliodd Home Education Wales mewn partneriaeth â thîm Cyfoethogi Cymunedau Cartrefi’r Fro ddigwyddiad haf. Roedd y digwyddiad yn agored i bawb a chroesawodd denantiaid a thrigolion o'r ardal leol.

 

Cafodd Gardd Pawb ei haddurno gyda baneri bach a chafodd pawb gyfle i weld y man agored. Mae'r ardd, diolch i gefnogaeth Home Education Wales a phartneriaid eraill, yn cynnig lle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. Dros yr haf, mae tŷ gwydr poteli dŵr wedi'i osod ynghyd â mainc ddigidol a chegin fwd.

 

Everyones Garden

Roedd y gweithgareddau hwyliog ar y diwrnod yn cynnwys y beic paent poblogaidd lle mae plant ac oedolion yn mynd ar gefn beic statig gan greu lluniau hyfryd trwy fwrdd troi sy’n cylchdroi. Hefyd cymerodd plant ac oedolion ran mewn rasys hwyaid a helfa sborion, ynghyd â phaentio wynebau a gwnaeth dewin ddiddanu gan fodelu balwnau a oedd yn ffefryn ymysg pawb.

 

Everyones Garden PicsCafodd byrgyrs a chŵn poeth eu darparu gan Home Education Wales a chafodd lluniaeth a lolïau iâ eu darparu gan Cartrefi’r Fro. Daeth llawer o bobl i’r digwyddiad diolch i’r tywydd poeth a’r awyr las.

 

Dywedodd Donna Rapley, ymddiriedolwr Home Education Wales a threfnydd y digwyddiad "Roedd yn hyfryd gweld yr ardd yn cynnal digwyddiad gwych fel hyn yn ystod gwyliau'r haf a gweld pawb yn mynychu yn cael amser mor dda ac yn mwynhau'r ardd gymunedol".

 

Rhaid diolch yn arbennig i'r holl wirfoddolwyr a helpodd yn yr heulwen gan helpu i sicrhau bod yr ardd gymunedol yn edrych yn wych. RoEveryones Garden Picedd yn wych gweld cymaint o blant a theuluoedd newydd yn dod i'r digwyddiad.

 

Diolch yn fawr hefyd i Gyngor Bro Morgannwg am ariannu'r digwyddiad drwy'r rhaglen ariannu digwyddiadau cymunedol.

 

Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect hwn, cysylltwch â Mark Ellis, Swyddog Cyfranogiad a Chyfoethogi Cymunedau Cyngor Bro Morgannwg, ar markellis@valeofglamorgan.gov.uk