Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad digartrefedd a heb ddim cynilion na ffordd o gael arian i dalu bond gall tîm Cynghori Tai Bro Morgannwg eich helpu o bosib. Byddant yn asesu eich anghenion tai ac os byddwch yn bodloni'r meini prawf am gymorth efallai y byddant yn gallu cynnig i’r Landlord dystysgrif gwarant bond. Os ydych yn derbyn budd-daliadau cymwys, mae sefydliadau ac elusennau eraill a allai eich helpu, y rhain yw;
- Eglwys y Tabernacl ar 02920 702690
- Eich adran leol sy’n delio gyda gwaith a phensiwn (canolfan waith)
Os oes gennych chi gais Budd-dal Tai cyfredol yna fe allwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol i gael cymorth gyda bond a rhent ymlaen llaw.
Cofiwch, os ydych yn talu i’ch landlord trwy fond arian parod mae'n rhaid iddo, dan gyfraith gwlad, ei roddi mewn cyfrif dan gynlluniau awdurdodedig y Llywodraeth, sef cynlluniau adneuon tenantiaeth, a bydd raid iddynt roi gwybod i chi, o fewn 30 diwrnod, ym mha gynllun y mae’r bond.