Cam-drin domestig: Ofn dychwelyd adref
Gwybodaeth am gam-drin domestig a gwasanaethau sy’n helpu
“Cam-drin domestig yw camddefnyddio pŵer a rheolaeth un oedolyn dros oedolyn arall yng nghyd-destun perthynas bersonol agos. Gall cam-driniaeth fod yn gorfforol, emosiynol, seicolegol, rhywiol neu’n ariannol”
Gall ddigwydd i unrhyw un waeth beth fo’i oedran, rhyw, hil neu gyfeiriadedd rhywiol. Er bod pobl yn cymryd yn ganiataol bod cam-drin domestig yn ymwneud â thrais corfforol, mae’n cynnwys ystod o weithrediadau yn erbyn person gan gynnwys galw enwau, ynysu o ffrindiau a theulu, gemau emosiynol a bygwth pobl.
Mae’r cam-drin hwn hefyd yn ymwneud â’r cyflawnwr yn galluogi neu’n achosi i blentyn weld, neu fod mewn perygl o weld cam-drin domestig.
Mae Atal y fro yn rhoi cymorth i fenywod sy’n profi cam-drin domestig gan bartner.
Mae Dyn Wales yn rhoi cymorth i ddynion sy’n profi cam-drin domestig gan bartner.
Boed yn berchen ar eich tŷ neu’n rhentu, mae eich diogelwch yn bwysig i ni. Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun; gall ein Tîm Cymorth Tai roi cyngor i chi neu eich cyfeirio at asiantaethau eraill all roi cymorth a chyngor.
Mewn achos brys, os ydych chi neu’ch teulu mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999