Cost of Living Support Icon

Tai Gwledig

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn bryderus ynghylch effaith diffyg tai fforddiadwy ar iechyd cymunedau gwledig, felly rydym wedi dechrau menter newydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r Fro wledig wedi colli 76% o’i dai cyngor.  Mae problemau tai gwledig yn aml yn cael eu hanwybyddu oherwydd bod pobl y wlad wedi arfer dod o hyd i'w datrysiadau eu hunain, felly mae angen yn aml yn cael ei guddio neu ei symud y tu allan i'r ardal.

 

Mae pobl y wlad sy’n gweithio’n lleol yn aml yn gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i gartref teulu.   Oherwydd bod rhaid iddynt deithio’n ôl gartref i weithio, mae eu cenhedlaeth nesaf o blant yn tyfu i fyny i ffwrdd o’u gwreiddiau a’u treftadaeth.

 

Mae cymunedau’n cael eu heffeithio gan nad ydynt mwyach yn cadw pobl ifanc a theuluoedd ifanc.   Gall ysgolion, gwasanaethau a busnesau gau a gall cyflogwyr ei chael hi’n anodd dod o hyd i weithwyr hir dymor dibynadwy.

 

Mae rhwystrau i ddatblygu tai newydd yn y Fro wledig; diffyg dealltwriaeth, cyllid, argaeledd tir ac addasrwydd tir.  Ond, gall pobl ag ewyllys da, weithio ynghyd i gynhyrchu atebion cyffrous a hir dymor.

 

Dylai cymunedau elwa o dai newydd.  Y peth pwysig yw adeiladu digon o gartrefi newydd i ddiwallu angen lleol a pheidio â choncritio dros y Fro wledig.

 

Mae gan y cyngor Alluogwr Tai Fforddiadwy sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Cymuned gwledig, a phreswylwyr i godi ymwybyddiaeth o faterion a datblygiadau tai.  

Diweddariad Galluogi Tai Gwledig Bro Morgannwg 2016-2017

Mae hyn yn rhoi diweddariad ar waith project Galluogi Tai Gwledig (GTG) y Cyngor.

 

Croeso i ddiweddariad GTG 2016-2017.  Hoffwn gyflwyno fy hun… fy enw i yw Kelly Davies. Fi yw'r Swyddog Galluogi Tai Newydd ar gyfer Bro Morgannwg.  Dechreuais yn y swydd ddiwedd mis Mehefin 2016 ar ôl cwblhau gradd mewn astudiaethau tai a lleoliad gwaith 11 mis gyda thîm datblygu cymunedol Cymdeithas Tai Hafod.   Edrychaf ymlaen at adeiladu ar ymdrechion cyn-ddeiliaid y swydd hon, gan weithio gyda chymunedau gwledig i adnabod angen lleol am dai fforddiadwy a’u cefnogi nhw a’n partneriaid tai i ddod o hyd i ddatrysiad addas i fodloni’r galw hwn.  Ers dechrau’r project GTG yn y Fro yn 2010, mae wedi cyfrannu’n llwyddiannus at gyflawni sawl cynllun tai fforddiadwy gwledig i bobl leol, ac mae'r Swyddogion wedi bod yn ymwneud â pharatoi cynlluniau eraill, a fydd yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd nesaf.

 

Datblygu Tai

Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gynnig tai fforddiadwy newydd ledled y Fro wledig.  

 

Oeddech chi’n gwybod bod gan y rhan fwyaf o ddatblygiadau tai preifat newydd ganran o dai fforddiadwy?   Rydym wedi ennill 113 o eiddo rhent cymdeithasol a 39 o eiddo cost isel gan ddatblygiadau preifat drwy gytundebau adran 106 yn 2016 (hyd heddiw).  Darperir y tai hyn i bobl leol sydd ar y rhestrau aros Homes4U neu Aspire2own ac sy’n gael eu rheoli gan ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.  

 

Wenvoe LCHOOcean-View-Ogmore

 St Lythans

     

 

 

 

 

 

 

Cysylltwch â ni os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am yr eiddo rhent cymdeithasol hyn neu eiddo perchentyaeth cost isel sydd ar gael yn y safleoedd hyn.

 

Tai Newydd sydd wedi’u Cwblhau

Yn ystod 2016, mae dau o’n cymdeithasau tai partner wedi sefydlu pedwar o ddatblygiadau tai sy’n 100% fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig ym Mro Morgannwg.  Datblygwyd yr holl gynlluniau ar safleoedd tir llwyd.

 

Ym mis Chwefror 2016, gwnaeth Cymdeithas Tai Newydd ddarparu cyfanswm o 23 o dai fforddiadwy newydd i bobl leol yn ei safle yn Heol Silstwn, Sain Tathan.  Gwnaeth y datblygiad gwledig, a adeiladwyd ar yr hen orsaf drenau, gynnig 6 o fflatiau un ystafell wely, 2 fyngalo dwy ystafell wely wedi'u haddasu, 10 o dai dwy ystafell wely a 5 o dai tair ystafell wely i’w rhentu.

 Old Station Yard Impression

 

Ym mis Mai 2016, gwnaeth Cymdeithas Tai Newydd gwblhau eu hail ddatblygiad tai fforddiadwy gwledig yn ystod y flwyddyn.  Mae Cwrt Col Huw yn Llanilltud Fawr wedi darparu 18 o dai fforddiadwy newydd sbon, yn cynnwys 13 o dai dwy ystafell wely a 5 o fflatiau un ystafell wely er mwyn i bobl leol eu rhentu.

 

Yn yr un modd, croesawodd Cymdeithas Tai Hafod denantiaid i'w ddatblygiad tai fforddiadwy newydd diweddaraf yn Dochdwy Road, Llandochau a Mariners Court, Y Rhws.   Cwblhawyd cynllun Dochdwy Road ym mis Mai 2016 a oedd yn cynnig 18 o fflatiau un ystafell wely a 2 o fflatiau un ystafell wely i'w rhentu, ac roedd datblygiad Mariners Court yn cynnig 2 o dai dwy ystafell wely i bobl leol, 2 o fflatiau un ystafell wely a 4 o fflatiau dwy ystafell wely i'w rhentu.

 

Gan edrych ymlaen at 2017, rwyf wedi hwyluso ymweliad safle i Gyngor Tref Llanilltud ddod i ymweld â’r tai fforddiadwy sy’n cael eu cynnig mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Wales & West yn Redwood Close, Trebefered.  Roedd yr aelodau’n fodlon iawn ar safonau uchel yr eiddo, yn enwedig pan welon nhw'r addasiadau a oedd wedi'u gwneud i ddau fyngalo sydd wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer teuluoedd gydag anghenion meddygol.  Bellach, mae’r Cyngor Tref yn edrych ymlaen at dderbyn adborth o ran dyraniadau a’r gosod tai’n lleol cytunedig pan fydd y tenantiaid newydd yn symud i mewn fis Chwefror 2017.

Redwood Close, Boverton

 

Pan fydd datblygiadau tai fforddiadwy yn cael eu cymeradwy gan Gyngor Bro Morgannwg, byddwn yn ceisio sicrhau bod o leiaf un eiddo wedi'i addasu'n llawn ar gyfer anghenion person ar y gofrestr Tai Hygyrch.

 

Datblygiadau Gwledig Posibl

Yn ystod mis Tachwedd 2016, ymwelais â Chyngor Tref Sain Siorys a Llansanffraid Elái gyda Chymdeithas Tai Wales & West i roi cyflwyniad ar rôl y GTG a sut all tai fforddiadwy wneud gwahaniaeth i bobl leol ac o ran cynnal cymunedau gwledig. Roedd y cyfarfod yn llwyddiant, ac ym mis Ionawr 2017 buom yn ôl yno i drafod safle tai fforddiadwy posibl yn The Downs, sydd yn ffiniau Sain Siorys a Llansanffraid Elái.  Rydym yn bwriadu ymgymryd ag ymchwil manwl i'r galw am dai yn yr ardal i sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn yr ardal yn bodloni'r angen lleol.  Ar ôl hyn, rydym yn gobeithio cynnal ymgynghoriadau gyda phreswylwyr lleol a chyflwyno cais cynllunio gan Gymdeithas Tai Wales & West gyda chymorth y gymuned leol.

 

Yn yr un modd, rwyf yn y broses o hwyluso cyfarfod rhwng Cymdeithas Tai Hafod a Chyngor Cymuned Pendeulwyn.  Mae Hafod yn gobeithio adeiladu datblygiad bychan o dai fforddiadwy i bobl leol sydd eu hangen yn Hensol. 

 

Rwyf wedi cynnal sawl cyfarfod am gyfleoedd tir a all gynnig safleoedd bychan ond strategol bwysig ar gyfer tai fforddiadwy i bobl mewn ardaloedd gwledig yn y Fro.  Fodd bynnag, yn y math hwn o swydd mae'n rhaid i chi atgoffa eich hun mai dim ond canran ychydig o gynlluniau arfaethedig a fydd yn cael eu hadeiladu mewn gwirionedd. 

 

Byddem yn falch o glywed gan unrhyw un a fyddai'n hoffi i ni wneud rhywbeth tebyg yn eu cymuned nhw.

 

Polisïau Gwerthu a Gosod Lleol

Mae wedi bod yn chwe mis prysur iawn i mi, a’m cyd-weithwyr cynt.  Ynghyd â’n cymdeithasau tai partner, rydym wedi gweithio’n agos gyda sawl Cyngor Tref a Chymuned yn ystod 2016/2017. Wrth gydweithio rydym wedi datblygu ac ysgrifennu Polisïau Gosod a Gwerthu unigryw ar gyfer Tregolwyn, Saint-y-brid, Penllyn, Llanilltud Fawr, Dinas Powys, Llandochau, Gwenfô, Sain Tathan, Y Wig a chydag aelodau ward Y Rhws.  Nod y polisïau hyn yw ceisio sicrhau bod tai fforddiadwy newydd sy'n cael eu darparu yn yr ardaloedd hyn yn cael eu dyrannu i ymgeiswyr gyda chysylltiad lleol gwirioneddol.  Yn ogystal, rwyf wedi bod yn falch iawn o gael adrodd yn ôl am ganlyniadau rhai o'r polisïau hyn, gan annerch Cyngor Cymuned Gwenfô, Cyngor Cymuned Saint-y-brid a Chyngor Cymuned Tregolwyn ac adrodd am hanesion llwyddiannus ble rydym wedi gallu bodloni'r galw.  

 

Newyddion Arall

Cefais gyfle i ymchwilio i ddatrysiadau amgen ynghylch tai fforddiadwy.  Mae Cydweithfa Tai Cymru wedi rhoi cyfle i mi weld enghreifftiau o dai fforddiadwy a ddarparwyd dan fodel cydweithfa yn Loftus Gardens, Casnewydd a Phentref Home Farm, Trelái.  Cawsom gyfle i siarad â phreswylwyr a oedd yn gwerthfawrogi naws gydweithredol y broses gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau i’w hanghenion am dai, er enghraifft pan roeddent wedi gorfod mynd i’r sector rhent preifat neu wedi methu â chael morgais.

 

Cefais fynd yn ôl i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd hefyd gyda David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy. Gofynnwyd i David gyflwyno ychydig o enghreifftiau o gynlluniau yr oedd wedi mynd ar eu hôl a siaradodd am yr anawsterau sydd ynghlwm wrth ddatblygu mewn ardaloedd gwledig. Cefais innau gyfle i rannu fy mhrofiadau gyda myfyrwyr y cwrs tai.

 

Edrychaf ymlaen at gwrdd â phob Swyddog Galluogi Tai Gwledig Cymru a phobl sydd â’r un feddylfryd yn y Gynhadledd Tai Gwledig, a fydd yn cael ei gynnal ar 26 Ionawr, gan obeithio dysgu pethau newydd a rhannu profiadau ym Mro Morgannwg Wledig.