Marc yr Enfys
Mae Marc yr Enfys yn farc cydraddoldeb a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gefnogir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Thai Pawb – arwydd o arfer da, ymrwymiad a gwybodaeth am anghenion penodol, materion a rhwystrau sy’n wynebu pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a trawsryweddol (LGBT) yng Nghymru.
Er mwyn ennill Marc yr Enfys, mae’r Ganolfan Ragoriaeth LGBT yn cynnig meini prawf asesu i'w cyflawni a chanllawiau a chyngor parhaol i helpu i gasglu tystiolaeth a datblygu arfer da, gan gynnwys gwasanaethau cymorth (yn ôl yr angen) gyda ffurflenni ail-eirio, polisïau a gweithdrefnau.
Trwy ennill Marc yr Enfys bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dangos:
ei fod yn gweithio yn unol â gofynion statudol a hybu arfer gorau wrth ymgysylltu â’r gymuned LGBT.
ei fod yn nodi ac yn myned i’r afael ag anawsterau y gallai’r Cyngor eu hwynebu wrth fynd i’r afael ag anghenion y gymuned LGBT
ei fod yn sicrhau y gall y gymuned LGBT ddefnyddio gwasanaethau'n hawdd
ei fod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith staff ynghylch y materion penodol sy’n effeithio ar bobl LGBT sydd angen tŷ
ei fod yn dechrau monitro gwasanaethau o ran cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd
ei fod yn codi ymwybyddiaeth o faterion penodol wrth fynd i’r afael ag anghenion pobl LGBT trwy arfer rheoli da
ei fod yn manteisio ar fodelau cyfredol o arfer effeithiol ac yn datblygu ei rai ei hun
ei fod yn nodi ffyrdd arloesol newydd o weithio i fodloni anghenion pobl LGBT
ei fod yn gwbl ymwybodol o’r holl fframweithiau deddfwriaethol sy’n effeithio ar wasanaethau
ei fod yn adolygu polisïau a gweithdrefnau cyfredol yn rheolaidd fel eu bod yn unol â gofynion statudol ac yn hybu arfer gorau.
Mae adran Tai Sector Cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio tuag at ennill Marc yr Enfys ar hyn o bryd.