Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi ym mis Ebrill 2012 a’r cynllun Benthyciadau Gwella Tai ym mis Ebrill 2015.
Ym mis Chwefror 2018, addaswyd y telerau cyllido ac ailenwyd y benthyciadau. Mae Cyngor Bro Morgannwg nawr yn cynnig Benthyciad Eiddo Gwag i Landlordiaid, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer eiddo y mae angen gwaith adnewyddu arnynt cyn cael eu gosod neu’u gwerthu (mae hyn yn debyg i’r Cynllun Troi Tai’n Gartrefi blaenorol). Hefyd cynigir Benthyciad Eiddo Gwag i Berchen-feddianwyr i alluogi perchenogion eiddo i fyw yn eu heiddo eu hunain sy'n wag o ganlyniad i'r ffaith bod angen gwaith arno.
Yn ogystal, mae Benthyciad i Berchen-feddianwyr ar gael i berchenogion eiddo sy’n byw mewn eiddo y mae angen gwaith arno.
Ers i’r cynlluniau ddod i rym, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi benthyg dros £1,250,000 i ymgeiswyr. Mae nifer o anheddau gwag wedi cael eu haddasu i fyw ynddynt yn sgil y cyllid hwn, sydd yn ei dro wedi arwain at gyflawni targedau Llywodraeth Cymru.
Isod, gwelir enghreifftiau o eiddo gwag hirdymor sydd wedi cael eu trawsnewid trwy’r fenthyciadau tai a hwylusir gan Gyngor Bro Morgannwg.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynlluniau benthyciadau cysylltwch â:
Benthyciadau Tai
Adfywio a Chynllunio
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd y Dociau
Subway Road
Y Barri
CF63 4RT