Cost of Living Support Icon

Dulliau adnabod derbyniol Homes4u

Wrth wneud cais am Homes4u rhaid i chi brofi pwy ydych chi (enw).

 

Bydd angen y dogfennau hyn ar y prif ymgeisydd ac unrhyw gyd-ymgeisydd (os yw'n berthnasol).

 

Beth gallwch chi ei ddefnyddio i brofi pwy ydych chi?

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd un o'r canlynol yn ddigon (Cyflwynwch gopïau’n unig ac nid dogfennau gwreiddiol):

  • Pasbort presennol o'r Deyrnas Unedig

  • Trwydded yrru ddilys lawn gyfredol â llun

 

Os na allwch gyflwyno un o'r eitemau uchod, bydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen.  Un ddogfen o bob rhestr.

 

Prawf adnabod

  • Pasbort yr UE/AEE, trwydded yrru â llun cyfredol

  • Pob pasbort cyfredol arall sydd wedi'i lofnodi, gyda fisa dilys ar gyfer y DU lle bo hynny'n berthnasol

  • Tystysgrif geni gwreiddiol y DU a gyflwynwyd o fewn 12 mis o’ch genedigaeth (gan gynnwys y rheiny a gyflwynwyd gan awdurdodau’r DU o dramor, e.e. llysgenadaethau, Uchel Gomisiynau a Lluoedd EM)

  • Cardiau cofrestru ffotograffig ar gyfer unigolion hunan-gyflogedig yn y diwydiant adeiladu CIS4

  • Hysbysiad treth CThEM

  • Trwydded breswyl fiometrig

  • Pàs gyrrwr anabl glas

  • Llythyr hawlio budd-daliadau

  • Cerdyn adnabod Lluoedd Arfog y DU

  • Dogfen Statws Mewnfudo'r Swyddfa Gartref ynghyd â phrawf o'r hawl i breswylio

Prawf o gyfeiriad

  • Pasbort yr UE/AEE, trwydded yrru â llun cyfredol

  • Llythyr hawlio budd-daliadau

  • Hysbysiad treth CThEM

  • Bil treth awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn gyfredol

  • Bil trydan/nwy/dŵr (megis bil, nwy, trydan neu ffon llinell dir) wedi'i ddyddio o fewn y chwe mis diwethaf.  Nid biliau ffonau symudol

  • Datganiad banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd y DU

  • Datganiad morgais y DU, yr UE/AEE

  • Trwydded yrru dros dro y DU gyfredol

  • Datganiad cardiau credyd y DU

  • Cytundeb tenantiaeth a roddir gan gyfreithiwr, cymdeithas dai, cyngor lleol neu asiantaeth osod ddibynadwy

 

Nodyn pwysig ynghylch dogfennau derbyniol:

 

  • Cyflwynwch gopïau yn unig ac nid dogfennau gwreiddiol.

  • Pan fo angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ar wahân, ni ellir defnyddio'r un ddogfen ddwywaith, hyd yn oed os yw'n ymddangos ar y ddwy restr. Rhaid i'r dogfennau fod gan gwmnïau gwahanol.

  • Rhaid i'r holl ddogfennau fod y rhai diweddaraf. Nid ydym yn derbyn dogfennau sydd wedi dod i ben.

  • Dylai'r dogfennau a ddefnyddir i brofi'r cyfeiriad ddangos eich enw llawn a'ch cyfeiriad cyfredol.

  • Rydym yn derbyn datganiadau wedi'u hargraffu o fanciau ar y we.

  • Rydym yn cadw'r hawl i gael dogfennau adnabod ychwanegol ac i wirio cyfeiriadau os oes angen.