Cost of Living Support Icon

Waun Ganol, Penarth  

Perchentyaeth Cost Isel: Dyma gyfle gwych i brynu eiddo newydd ei godi mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy

  • Ydych chi'n brynwr tro cyntaf yn dymuno bod yn bechen ar eich tŷ eich hun?

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau'r farchnad?

  • Does dim gofyn mynd dim pellach, gall fod perchentyaeth o few cyrraed

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig y cartref dwy ystafell wely yma ym Mhenarth fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel ar ran y perchennog presennol.  


Mae'r eiddo yn fflat llawr gwaelod dwy ystafell wely gyda gardd breifat. Mae'r eiddo'n destun prydles 999 mlynedd o 2004. 


Mae'r llety yn cynnwys:

Cyntedd, lolfa gyda drysau Ffrengig i’r ardd, cegin/ystafell frecwast, dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi.  Yr ystafell ymolchi a'r gegin gyda gosodiadau a ffitiadau gwreiddiol.   

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo. 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £147,000 (y pris 100% yw £210,000)

 

Mae’n hanfodol fod gennych Forgais o ran Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, cysylltwch â:

Bydd ymgeiswyr cymwys yn:

  • Brynwyr tro cyntaf

  • Prynu am y tro cyntaf

  • Gallu codi morgais am werth yr eiddo

  • Gyda blaendal

Nodwch: Mae’r meini prawf cymhwysedd a’r polisi Gwerthu Lleol yn berthnasol

Aspire-2own logo Gwneud Cais am Eiddo

Peidiwch anghofio, cyn ymgeisio i brynu, mae rhaid i chi gofrestru ar gyfer y  Cynllun Aspire2Own.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu’r eiddo hwn, darllenwch yr hysbyseb a chwblhau ffurflen gais.   

 

 

Cofrestrwch gydag Aspire2Own i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd eraill ym maes perchnogaeth tai cost isel.