Cost of Living Support Icon

51 Cae Brewis, Boverton, Llanilltud Fawr

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf yn dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun? 
  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 
  • Does dim gofyn mynd dim pellach, gall perchentyaeth fod o fewn cyrraedd

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gynnig ar y cyd â Harmoni Homes Cymdeithas Tai Unedig Cymru, dŷ 2 ystafell wely pen teras yn y Boverton, Llanilltud Fawr fel rhan o’n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae hwn yn eiddo sy’n cael ei ailwerthu ym Mand Treth Gyngor C.

 

Mae'r llety yn cynnwys: 

  • Cyntedd
  • Toiled lawr llawr
  • Lolfa
  • Cegin
  • Ystafell Ymolchi
  • Dwy Ystafell Wely
  • Gardd Gefn Amgaeedig
  • Dreif i ddau gar

 

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.   

 

 

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £147,000 (y pris 100% yw £210,000)

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, cysylltwch â:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol