Cost of Living Support Icon

Draenio 

Mae draenio’r priffyrdd yn helpu i arbed llifogydd a chronni difrifol, ac yn cadw’r heol yn glir o byllau dŵr

 

Gosodir systemau draenio yn y priffyrdd i ddal dŵr ar yr arwyneb. Mae hyn yn:

  • Lleddfu llifogydd
  • Amddiffyn gwneuthuriad a deunydd yr heol
  • Ategu diogelwch defnyddwyr yr heol

Ein cyfrifoldeb ni yw arolygu materion sy’n ymwneud â draenio’r priffyrdd yn y Fro ac i ddarparu gwybodaeth a chyngor i chi a gweddill aelodau’r cyhoedd.

 

Nodwch: mae gan bob system ddraenio uchafswm maint craidd i gludo gŵr glaw. Ni all unrhyw system amddiffyn yn llwyr yn achos llifogydd difrifol. 

 

Cyfrifoldebau Draenio 

 

Dŵr Cymru Welsh Water – (prif) system garthffosiaeth gyhoeddus (dŵr budr a dŵr arwyneb)  

 

Perchnogion tai – fel arfer, ar berchennog tŷ mae’r cyfrifoldeb am gyswllt eiddo unigol â’r system garthffosiaeth gyhoeddus (ac eithrio pan fo’r eiddo’n perthyn i’r Cyngor) 

 

Cyfoeth Naturiol Cymru – prif afonydd

 

Cyngor Bro Morgannwg – ni fel Cyngor sy’n gyfrifol am ddraenio’r priffyrdd.

 

Caiff gwella draeniau eu blaenoriaethu yn nhrefn:  

  • Llifogydd mewn adeiladau
  • Cwynion gan y cyhoedd
  • Argaeledd cyllid
  • Llifogydd neu gronni difrifol ar y briffordd sy’n beryglus i ddefnyddwyr y ffordd
  • Dŵr yn gollwng neu’n croesi priffordd ar dro neu ar lethr sy’n debygol o fod yn beryglus i yrwyr neu droi’n iâ

 

 

Dweud wrthon ni am Broblem â Draenio’r Briffordd 

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni 

I ddweud wrthon ni am broblem â draenio’r briffordd, llenwch ein ffurflen ar-lein neu gysylltu â Gwasanaethau Gweladwy:

 

Problem Draenio’r Briffordd

Dweud wrthon ni am Broblem Garthffosiaeth

Rhoi gwybod i Dŵr Cymru Welsh Water am broblem garthffosiaeth 

Os oes problem sy’n ymwneud â charthffosiaeth ar y briffordd, cysylltwch â Dŵr Cymru Welsh Water: 

 

  • 0800 085 3968 

 

 

Cysylltu â Dŵr Cymru Welsh Water