Cost of Living Support Icon

Torri Ffosydd

Tîm draenio Adran Priffyrdd a Pheirianneg y Cyngor sy’n cynnal a chadw ffosydd a sianeli dŵr agored. 

 

Mae ffosydd a sianeli dŵr agored yn dal dŵr oddi ar arwyneb y priffyrdd a’i gludo i’r prif afonydd. Mae sawl ardal yn dibynnu ar ffosydd i ddraenio’r priffyrdd. Perchennog glannau’r afon sy’n gyfrifol am ffosydd oddi ar y briffordd fabwysiedig.


Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n bennaf gyfrifol am brif sianeli dŵr agored (prif afonydd) ac maent yn eu cynnal a’u cadw neu’n cyhoeddi ‘hysbysiad’ i sicrhau bod perchnogion glannau afonydd yn eu cynnal a’u cadw.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwella’r rhwydwaith ffosydd drwy adeiladu creffynnau dŵr parhaol yn y rhan fwyaf o ffosydd a sianeli dŵr agored y Fro. Mae hyn yn lleddfu problemau cynnal a chadw ac yn darparu pwynt mynediad parhaol i ddŵr fynd oddi ar arwyneb y briffordd.

 

Dweud wrthon ni am Broblem â Ffos neu Sianel Ddŵr Agored

Dywedwch wrthon ni am broblem â ffos neu sianel ddŵr agored drwy lenwi’r ffurflen ar-lein.

 

Caiff ceisiadau i glirio ffosydd tagedig mewn ardaloedd sy’n dueddol o orlifo eu cyflawni fel mater o flaenoriaeth. Caiff ceisiadau safonol i glirio ffosydd eu hymgorffori yn amserlen flynyddol tîm y ffosydd.


Problem â Ffosydd neu Sianel Ddŵr Agored