Cynllun Pobl Ifanc Heini
Cyflwynir y rhaglen Pobl Ifanc Egnïol gan y Tîm Datblygu Chwaraeon, gan gwmpasu'r Cynllun 5x60.
Nod Cynllun Pobl Ifanc Heini yw cynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae canllawiau iechyd yn argymell y dylai plant a phobl ifanc (5-19 oed) wneud gweithgaredd corfforol, dwyster cymedrol i egnïol, am o leiaf 60 munud y dydd ar drwy’r wythnos. Gall hyn gynnwys pob math o weithgarwch megis addysg gorfforol, teithio llesol (e.e. cerdded, beicio, mynd ar sgwter), gweithgareddau ar ôl ysgol, chwarae a chwaraeon.
Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i sicrhau bod amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol difyr a phriodol ar gael ledled Bro Morgannwg i blant a phobl ifanc, mewn lleoliadau allgyrsiol a lleoliadau cymunedol trwy raglen Pobl Ifanc Heini.
Rydym yn defnyddio data ac ymchwil gan gynnwys canlyniadau arolwg chwaraeon ysgolion i sicrhau ein bod yn targedu ein hadnoddau cyfyngedig lle mae eu hangen fwyaf.
Er mwyn hyrwyddo cyfranogiad gydol oes mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon, mae’r sector chwaraeon yng Nghymru wedi datblygu’r Fframwaith Sylfeini, canllaw arfer gorau ar gyfer plant 3 i 11 oed. Mae’r canllaw hwn yn cynorthwyo clybiau, sefydliadau, a rhieni i helpu i sicrhau bod pob plentyn yn tyfu i fyny mewn Cymru sy’n annog cymhelliant, hyder, a sgiliau hanfodol ar gyfer bywydau iach, actif. Y nod yw darparu profiadau ac amgylcheddau cyfoethog i bob plentyn fwynhau a pharhau i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Gweithio mewn Ysgolion
Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar draws Bro Morgannwg.
-
Lleoliadau Cyn Ysgol
Gweithio mewn partneriaeth â chyn-ysgolion Iach a Chynaliadwy a sefydliadau eraill i ddatblygu sgiliau a hyder i hyrwyddo cyfranogiad gydol oes mewn gweithgaredd corfforol.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
-
Ysgolion Cynradd
Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth i blant oed cynradd trwy brosiectau fel Playmakers a Llysgenhadon Ifanc. Mae Playmakers yn cefnogi disgyblion cynradd ym mlynyddoedd 5/6 i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i ddisgyblion allu cynorthwyo i arwain gemau a gweithgareddau corfforol amser egwyl / cinio mewn ysgolion. Cyflwynir y cwrs dros ddiwrnod ysgol a'i ddefnyddio i annog disgyblion iau i fod yn fwy egnïol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i dargedu disgyblion penodol a fyddai'n elwa o gymryd rhan mewn gweithgaredd.
Mae'r Cynllun Llysgennad Ifanc yn cynnwys Efydd, Arian ac Aur.Mae Llysgennad Ifanc Efydd yn ddisgybl blwyddyn 6 sy'n dangos arwyddion o sgiliau arwain rhagorol sydd â diddordeb mewn hyrwyddo chwaraeon a gweithgaredd corfforol i ddisgyblion eraill yn yr ysgol.
Cefnogi datblygiad prosiectau allgyrsiol newydd i gynyddu gweithgaredd corfforol / cyfleoedd chwaraeon trwy'r llif Cyllido Pobl Ifanc Egnïol.
Trefnu / hwyluso cyrsiau ar gyfer athrawon, AGLl a rhieni gwirfoddol ac ati i'w cefnogi i ddarparu gweithgareddau o fewn y rhaglen allgyrsiol.
I ddarganfod mwy, cysylltwch â Swyddog Byw'n Iach y Clwstwr
-
Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd a disgyblion i annog pobl ifanc i ddod yn fwy egnïol, yn amlach. Gall hyn fod trwy sefydliadau allanol / clybiau chwaraeon lleol sy'n cyflwyno sesiynau neu hyfforddiant arweinyddiaeth fel Llysgenhadon Ifanc, hyfforddiant Arweinyddiaeth Chwaraeon a Hyfforddwyr y Dyfodol i annog mwy o weithgaredd dan arweiniad cyfoedion.
I ddarganfod mwy, cysylltwch â Swyddog Byw'n Iach y Clwstwr
-
Gwyliau a Heriau Ysgolion Actif
Mae'r tîm yn cynnal cyfres o wyliau am ddim a Heriau Ysgolion Actif i roi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn digwyddiadau, profi gweithgareddau newydd, cysylltu â chlybiau chwaraeon/gweithgareddau corfforol lleol yn ogystal â dysgu sgiliau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
-
Clybiau a Sefydliadau Cymunedol
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o glybiau chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn y Fro i'w cefnogi i gynnig cyfleoedd o safon i blant a phobl ifanc lleol. I gael gwybod pa glybiau sydd ar gael yn y Fro ewch i Clybiau Sbort.
Rydym hefyd yn cefnogi clybiau i gael mynediad at gyfleoedd cyllido a chyfleoedd datblygu hyfforddwyr i helpu i ddarparu amgylchedd sy'n briodol i bobl ifanc.
I ddarganfod mwy, cysylltwch â Swyddog Byw'n Iach y Clwstwr
-
Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
-
Mae nofio am ddim ar gael ym Mro Morgannwg ar gyfer plant dan 16 oed ar rai adegau o'r flwyddyn.
I ddarganfod mwy, cysylltwch â:
Cysylltu â Ni
Mae pob swyddog o fewn y Tîm Datblygu Chwaraeon yn gyfrifol am ardal benodol o’r Fro, sy’n cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, clybiau a mudiadau o fewn yr ardal honno:
Clwstwr y Barri a Gwenfô - Angela Stevens
Dwyrain y Fro - Penarth, Sili, Dinas, Llandochau - Gareth East
Gorllewin y Fro – Llanilltud Fawr, y Rhws a Sain Tathan - Lucy Mitchell
Gorllewin y Fro – Y Bont-faen a'r cyffiniau - Ben Davies-Thompson
Uwch Swyddog Byw'n Iach - Rachel Shepherd
Prif Swyddog Byw'n Iach - Karen Davies