Y Tîm
Pan fyddwch chi’n ymuno â’r cynllun, bydd gweithiwr ffitrwydd proffesiynol, cymwys yn cael ei glustnodi i chi, a bydd yn goruchwylio’ch cynnydd. Nhw fydd eich pwynt cyswllt cyntaf, a bydd yn arwain eich dosbarthiadau a’ch sesiynau hyfforddi er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion.
Jamie Lane
Lleoliad: Canolfan Hamdden y Barri
Mae Jamie wedi gweithio yn y diwydiant hamdden ers dros 25 mlynedd ers iddo raddio mewn Gwyddorau Ymarfer Corff o Brifysgol Brighton.
Mae Jamie’n hyfforddwr Lefel 4, ac mae ganddo gymwysterau Arbenigwr Adfer y Galon, Hyfforddwr Arbenigol Iechyd Meddwl a hyfforddwr Arbenigol Gordewdra a Chlefyd y Siwgr yn ogystal.
Mae Jamie wedi ennill gwobr mewn hyfforddi personol hefyd, felly os gwelwch chi mai fe sydd â gofal dosbarth, byddwch yn barod am sesiwn ddwys.
Helen Beggs
Lleoliad: Canolfan Hamdden y Barri
Mae Helen wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant iechyd a ffitrwydd ers sawl blwyddyn ac mae ganddi sylfaen wybodaeth wych ar ôl gweithio mewn sawl rhan o’r DU yn helpu pobl i fod yn fwy actif a chadw’n heini ar wahanol raglenni iechyd.
Mae Helen wrth ei bodd yn ysgogi pobl ac mae ganddi gymwysterau arbenigol fel Hyfforddwr Sefydlogrwydd Osgo Lefel 4, Arbenigwr Adsefydlu Cardiaidd ac mae hi ar hyn o bryd yn hyfforddi fel hyfforddwr Tai Chi ac wedi bod yn hyfforddwr personol ers blynyddoedd lawer. Mae hi’n rhedwr brwd ac wedi cynrychioli ei gwlad droeon ar ffyrdd, traciau a thraws gwlad.
Craig Nichol
Lleoliad: Canolfan Hamdden Penarth
Mae Craig wedi bod yn gweithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd ers 1997. Mae ganddo wybodaeth eang am y maes yn sgil ei swyddi mewn ymddiriedolaeth leol, sefydliad preifat a llywodraeth leol. Mae Craig yn Hyfforddwr Personol Lefel 3.
Yn ogystal, mae’n Uwch Hyfforddwr Ffitrwydd ac mae ganddo gymwysterau mewn Atgyfeirio ar gyfer Ymarfer Corff, Ffitrwydd Celf Ymladd Cymysg a Seiclo Stiwdio a Chylched.
Max Smith
Lleoliad: Canolfan Hamdden y Barri
Mae Max wedi bod yn gweithio yn y tîm ers nifer o flynyddoedd yn ymdrin â gwahanol feysydd o'r cynllun. Mae wedi gweithio yn y diwydiant ffitrwydd ers 2011. Mae'n angerddol am ffitrwydd a gallwch fod yn sicr y bydd yn gallu eich helpu i fod yn fwy heini ac iach.
Mae gan Max gymwysterau lefel 4 fel Hyfforddwr Arbenigol Gordewdra a Diabetes a hefyd Hyfforddwr Adsefydlu Canser.
Lisa Cleary
Lleoliad: Canolfan Hamdden y Bontfaen a Llanilltud Fawr
Mae Lisa yn Hyfforddwr Lefel 4 gyda nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes iechyd a ffitrwydd. Mae Lisa yn hyfforddwr Iechyd Meddwl ac ymarfer corff Lefel 4 ac yn hyfforddwr arbenigol Gofal Cefn Lefel 4 yn ogystal â bod yn Hyfforddwr Tai Chi.
Mae Lisa wrth ei bodd yn rhedeg! Mae hi'n rhedwr brwd ac yn rhedeg pellteroedd maith hyd at ac yn cynnwys Marathonau ac yn marsialiaid yn rheolaidd yn Barry Park Run.