Cost of Living Support Icon

Gardd Berlysiau’r Bont-faen

The Butts, Y Bont-faen, CF71 7BD

  • Bob-dydd, 10:00am - 4:00pm

 

Gweld Gardd Berlysiau'r Bont-faen ar y map

 Cowbridge Physic Garden

Cafodd Gardd Berlysiau’r Bont-faen ei hail-greu ar safle a fu unwaith yn rhan o Hen Neuadd y Bont-faen, cartref y teulu Edmondes o’r ddeunawfed i’r ugeinfed ganrif.

 

Datblygwyd y cynllun fel rhan o ddathliadau pen-blwydd 750 derbyn siarter bwrdeistref y Bont-faen.  

 

Yn yr ardd, mae amrywiaeth ysblennydd o blanhigion a pherlysiau meddyginiaethol a fyddai wedi cael eu defnyddio’n draddodiadol i drin afiechydon, coginio a lliwio defnydd. Mae’n nodweddiadol o erddi perlysiau’r cyfnod, ac yn rhoi cip cyfareddol i ni ar nodweddion llesol planhigion.