Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae benthyca eLyfr yn union fel benthyca llyfr go iawn o'r llyfrgell. Caiff eitemau eu benthyg am gyfnod penodol ac ar ôl hynny cânt eu dychwelyd yn awtomatig. Mae gennych hefyd yr opsiwn i ddychwelyd yn gynnar neu ymestyn eich benthyciad os oes angen mwy o amser arnoch. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig dau wasanaeth, ac mae’r ddau yn cynnig mynediad i filoedd o eLyfrau; BorrowBox a Libby. Isod ceir rhestr lawn o ffyrdd y gallwch gael mynediad i'r apiau hyn.
iOS (Apple)
App Store
Android
Google Play Store
Kindle Fire
Amazon
Browser (PC/Mac)
BorrowBox
Libby
Ein ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus o gael gafael ar lyfrau sain. Gwrandwch gan ddefnyddio eich ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur a chael mynediad i'n casgliad enfawr o deitlau o bron unrhyw le yn y byd. Ar hyn o bryd mae tri ap sy'n cynnig mynediad i lyfrau sain gyda'ch aelodaeth o lyfrgelloedd Bro Morgannwg; Borrowbox, Libby ac uLibrary. Isod ceir rhestr lawn o ffyrdd y gallwch gael mynediad i'r apiau hyn.
uLibrary
Mae eich aelodaeth o lyfrgelloedd Bro Morgannwg hefyd yn danysgrifiad i filoedd o gylchgronau poblogaidd, sydd ar gael ar unwaith ar eich tabled, ffôn clyfar neu gyfrifiadur. Mae pob cylchgrawn yn argraffiadau llawn, yn union fel y rhai y byddech yn eu prynu o'ch siop leol. Gallwch hyd yn oed danysgrifio i'ch hoff deitlau fel na fyddwch byth yn methu’r rhifyn diweddaraf. Ar hyn o bryd mae dau ap sy'n cynnig mynediad i'n casgliadau cylchgronau digidol; Pressreader a Libby. Isod ceir rhestr lawn o ffyrdd y gallwch gael mynediad i'r apiau hyn.
Pressreader
Dim waliau talu, dim ond mynediad digyfyngiad i'ch hoff bapurau newydd dyddiol o'r DU yn ogystal â theitlau o bob cwr o'r byd. Agorwch Pressreader ar eich ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur i gael mynediad i newyddiaduraeth orau'r byd ar flaenau eich bysedd. Isod ceir rhestr lawn o ffyrdd o gael mynediad i Pressreader.
Am help a chymorth gyda’r llyfrgell e-Ddysgu cysylltwch â: