Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Browser does not support script.
Byddwch yn barod am y Teclynwyr, fydd yn ar gael ar-lein ac yn eich llyfrgell leol yr haf hwn.
Mae gwyddoniaeth o'ch cwmpas chi i gyd! Beth ydych chi wrth eich bodd yn ei wneud? Ydych chi'n bobydd gwych? Neu ffan mawr o gerddoriaeth? Ai chi yw'r dewin technoleg ymhlith eich ffrindiau? Ymunwch â'r Teclynwyr ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf i ddarganfod y wyddoniaeth a'r arloesedd anhygoel y tu ôl i'r byd o'ch cwmpas, gan gynnwys rhai o'ch hoff bethau!
Chwilfrydig? Perffaith! Gall eich dychymyg ddatgloi posibiliadau diddiwedd... Rydyn ni’n ymuno â Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth am Her arbennig iawn ar thema gwyddoniaeth a fydd yn eich ysbrydoli i ddefnyddio eich dychymyg a'ch creadigrwydd!
Bydd y Teclynwyr yn cynnwys llyfrau anhygoel, gwobrau gwych a digon o syniadau ar gyfer arbrofion a gweithgareddau difyr i ddarganfod y wyddoniaeth o'ch cwmpas. Bydd yr Her yn dod yn fyw gan yr awdur a'r darlunydd plant o fri Julian Beresford.
Ydych chi'n edrych ymlaen at ymuno â'r #Teclynwyr yr haf hwn? Galwch heibio'ch llyfrgell leol neu ewch i wefan swyddogol y Teclynwyr i ymuno!