Cost of Living Support Icon

Adnewyddu Eitem Ar-lein

Mae’n haws nag erioed i adnewyddu eitem sydd ar fenthyg o’r llyfrgell

 

Yr hyn fydd ei angen arnoch chi 

Bydd angen rhif unigryw arnoch chi i adnewyddu eitem ar-lein. Gofynnwch i staff eich llyfrgell agosaf ddarparu un i chi. Unwaith byddwch chi wedi derbyn y rhif, rydych chi’n barod i ddechrau adnewyddu’ch eitemau drwy ddefnyddio ein catalog ar-lein. 

 

Adnewyddu eitem ar-lein

 

Sut i adnewyddu eitem ar-lein

  1. Cliciwch ar Mewngofnodi yn y ddewislen ar frig y sgrin
  2. Mewnosodwch eich rhif cerdyn Llyfrgell a'ch PIN.
  3. Cliciwch Mewngofnodi.
  4. Dylai eich enw a neges groeso ymddangos nawr ar frig y sgrin.
  5. Cliciwch ar Fy Nghyfrif yn y ddewislen ar frig y sgrin.
  6. Cliciwch ar y ddolen Benthyciadau.
  7. Dylai rhestr ymddangos o'r eitemau sydd gennych ar fenthyg.
  8. I adnewyddu unrhyw un ohonynt, cliciwch y blwch ticio nesaf atynt a yna gliciwch ar Adnewyddu. Fel arall, i adnewyddu'r holl eitemau cliciwch Dewis Popeth a chliciwch Adnewyddu.
  9. Bydd blwch deialog yn gofyn i chi gadarnhau'r adnewyddu. Cliciwch Ie.
  10. Dylech wedyn cael eich cymryd yn ôl at y rhestr o'ch benthyciadau gyda neges gwyrdd yn darllen Benthyciadau wedi’u hadnewyddu'n llwyddiannus. Gwiriwch y dyddiad dychwelyd newydd a restrir yn erbyn yr eitem(au) a adnewyddwyd.
  11. Os na chafodd unrhyw eitem eu hadnewyddu, bydd y rheswm yn cael ei nodi’n goch o dan yr eitemau perthnasol.
  12. Cofiwch glicio Ymadael ar ddiwedd eich sesiwn.