Cost of Living Support Icon

Iechyd a Lles 

Rydyn ni’n awyddus i hyrwyddo lles ein trigolion, ac mae nifer o lyfrau a gwasanaethau ar gael yn ein llyfrgelloedd i hwyluso hyn. 

 

Yma, cewch wybodaeth bellach am y cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru, y gwasanaethau rydyn ni’n e darparu i gartrefi gofal a’r dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd.

 

Mae yma hefyd ddolenni i wasanaethau a mudiadau sy’n cynnig gwybodaeth am afiechydon a chyflyrau penodol, ffynonellau grantiau, cyfarpar i hwyluso byw, cymorth a chyngor. 

Health and Well Being

 

Man checking books out of a library

Presgripsiwn Llyfrau Cymru 

Nod cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru yw helpu pobl â phroblemau emosiynol cymedrol i ganolig i ddefnyddio’r llyfrau hunangymorth safonol uchel sydd wedi cael eu dethol yn benodol gan seicolegwyr a chyn-goryddion sy’n gweithio yng Nghymru.

 

Mae set o’r llyfrau defnyddiol a phoblogaidd yma ar gael yn holl lyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Os ydych chi’n derbyn presgripsiwn am lyfr gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall, gallwch chi ddod ag e i’ch llyfrgell leol a bydd y staff yn dod o hyd iddo i chi.

 

Os nad yw e ar gael mewn un llyfrgell, efallai fyddwn ni’n gallu cael gafael ynddo gan gangen arall o fewn rhai dyddiau. Does dim rhaid i chi fod yn aelod o’r llyfrgell i gael benthyg un o’r llyfrau hyn, ond rydyn ni’n argymell i chi ymuno er mwyn manteisio ar yr amrywiaeth ehangach o lyfrau a gwasanaethau sydd ar gael i chi. 

 

Children with parents 

Bibliotherapi i Blant a’r Teulu 

Mae nifer o rieni’n troi at eu meddyg teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol am help i ymdopi ag ystod o anawsterau emosiynol. 

 

Yr enw ar ddefnyddio llyfrau hunangymorth i ddeall a datrys problemau emosiynol yw ‘bibliotherapi’. Mae NHS Cymru wedi nodi nifer o lyfrau sy’n ymdrin â meysydd fel dicter, profedigaeth, bwlio, hunanhyder, ysgariad, problemau bwyta, hyfforddiant toiled, trafferth rhwng brodyr a chwiorydd, problemau cwsg, llys-deuluoedd a mwy.

 

Un o nodweddion allweddol y cynllun hwn yw ei fod yn cynnig llyfrau hunangymorth i’r teulu er mwyn i’r teulu helpu’r plentyn. Mae rhai o’r llyfrau’n addas i blant eu darllen, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u cyfeirio at y teulu fel grŵp.

 

Fel yn achos y cynllun Presgripsiwn Llyfrau, rydych yn derbyn atgyfeiriad i ddod â nodyn i’r llyfrgell a’i gyfnewid am y llyfr. 

 moodboosting books logo

 

Llyfrau i godi’r hwyliau

Detholiad o nofelau, llyfrau ffeithiol a barddoniaeth ddyrchafol wedi’u hargymell gan ddarllenwyr ledled y DU.

 

Rydyn ni’n argymell i bobl sy’n defnyddio cynllun Darllen Da ar y cynllun Presgripsiwn Llyfrau bori drwy ffuglen neu farddoniaeth i godi’r hwyliau, er nad yw’r llyfrau yma dan bresgripsiwn nac wedi’u hawgrymu na’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol.

 

Mae pawb yn mwynhau llyfr da, felly pan welwch y symbol hwn, byddwch chi’n siŵr o gael boddhad o’r darllen. 

 

Reading group

Darllen ar y Cyd 

Gall Darllen ar y Cyd eich helpu i ail-greu’r teimlad hwnnw o fwynhau neu ryfeddu at stori dda wedi’i hadrodd yn dda. 

 

Mae grŵp Darllen ar y Cyd Llyfrgell y Barri’n cyfarfod am 1.00pm ar ddydd Gwener yn yr Ystafell Gymunedol fach ar y llawr cyntaf. Darperir lluniaeth ysgafn yn rhad ac am ddim.

 

Mae angen hoe rhag prysurdeb ein bywydau arnom ni i gyd – ennyd o ymlacio ac amser i ni’n hunain. Gellir sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd mewn amrywiaeth o lefydd – caffis, grwpiau mam  a phlentyn, cartrefi gofal, syrjeris, hostelau, carchardai ac ie, hyd yn oed llyfrgelloedd!

 

Mae pob aelod o’r grŵp yn derbyn copi o’r testun dan sylw – cerdd neu stori fer, er enghraifft – ac mae un aelod o’r grŵp, yr arweinydd fel arfer, yn ei ddarllen yn uchel. Ceir llawer o’r lles o’r cyfle i drafod y darn wedyn o fewn grŵp diogel.  

Mae’n ymwneud â chreu cyswllt emosiynol â’r llenyddiaeth,’meddai un darllenydd.

 

Do’n i ddim wedi darllen barddoniaeth ers dyddiau’r ysgol ond mae ei thrafod nawr yn help i fi ei deall yn well. Dwi’n dwlu gymaint arni nes ’mod i’n barddoni fy hun erbyn hyn,’ meddai un arall.

Mae tystiolaeth fod Darllen ar y Cyd yn medru bod yn llesol i bobl sy’n dioddef oherwydd profedigaeth, unigrwydd, iselder a’r sawl sydd yng nghyfnod cynnar dementia. 

 

Hearing-loop-icon

Technoleg Gynorthwyol

Rydyn ni’n cynnig nifer o wasanaethau i wella profiad ein defnyddwyr sydd ag amhariad ar eu golwg neu eu clyw.

Ceir system gylched clyw ym mhob llyfrgell i ddefnyddwyr dyfais glyw. Trowch eich dyfais i’r gosodiad ‘T’ (os yw ar gael) wrth y cownter er mwyn defnyddio’r adnodd hwn.

 

Mae ein llyfrgelloedd llawn amser wedi addasu cyfrifiaduron yn ardaloedd y plant a’r oedolion ag allweddellau botymau mawr a llygoden bêl mwy o faint.

 

Mae dau fath o sganiwr ar gael hefyd. Mae sganiwr Pulse Data Smartview i gynyddu maint print ar gael yn y Barri, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Phenarth, a sganiwr Humanware, sy’n cynyddu maint y print ac yn ei chwarae’n ôl, ar gael yn y Barri, Llanilltud Fawr a Phenarth. (Bydd angen i ddefnyddwyr ddod â’u clustffonau eu hunain i’w defnyddio gyda’r sganiwr hwn.)  

 

Mae pob un o’n llyfrgelloedd yn cario amrywiaeth eang o lyfrau print bras a llyfrau llafar, ac mae gennym stoc o dros 200 o DVDs â Sain Ddisgrifiad arnynt.

 

Mae ein staff yn mynd ar gyrsiau Ymwybyddiaeth o Anabledd a chyrsiau eraill fel rhan o’n hyfforddiant Cydraddoldeb. Os ydych chi’n credu y gallem wneud mwy i gynorthwyo’n darllenwyr i gael mynediad i lyfrau, llyfrau llafar, papurau newydd a gwybodaeth bellach, gofynnwch am sgwrs â’r Llyfrgellydd. 

 

Elderly-man-reading-a-book-adj

Gwasanaeth Cartrefi Gofal

Mae ein Gwasanaeth Cartrefi Gofal yn darparu cyflenwad cyson, amrywiol o lyfrau i gartrefi gofal ledled y Fro gan y llyfrgell agosaf, yn fisol fel arfer.

Mae ein Swyddog Estyn yn ymweld â’r cartref i drafod chwaeth darllen y trigolion, ac yna’n cydlynu â’r llyfrgell ar amlder yr ymweliadau, nifer y llyfrau, llyfrau llafar ac ati. Gall cartref gofal gael benthyg hyd at 120 o lyfrau ar y tro, ond rhaid iddynt hefyd dderbyn cyfrifoldeb dros ofalu am y llyfrau a sicrhau eu bod yn cael ei ddychwelyd.

 

Os ydych chi’n byw mewn cartref gofal nad sy’n cael ymweliad gan y Llyfrgell Naid nac yn derbyn cyflenwad o lyfrau o’r llyfrgell, neu os ydych chi’n gweithio mewn cartref gofal ac mae gennych ddiddordeb yn y cynllun ar gyfer y trigolion, cysylltwch â’ch llyfrgell agosaf i drefnu ymweliad. 

Elderly lady reading

Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref

Mae poblogrwydd ein gwasanaeth ar gyfer pobl nad sy’n medru dod i’r llyfrgell eu hunain ac nad oes ganddynt neb i ddod ar eu rhan yn cynyddu ymhlith darllenwyr a gwirfoddolwyr sy’n dymuno rhoi o’u hamser i wasanaeth y llyfrgelloedd.

 

Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i drefnu ymweliad â’ch cartref. Am fanylion llawn y cynllun, ewch i dudalen Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref.