Cyfarfod 25 Awst
Gone Girl gan Gillian Flynn
Gan fod ambell un heb orffen darllen y llyfr cyn y cyfarfod, roedd yn anodd trafod y diwedd, a oedd mor syfrdanol nes iddo newid barn un o’r darllenwyr am un o’r cymeriadau yn llwyr. Er bod y dechrau’n araf ac yn llafurus, nad oedd wrth fodd pawb, yn raddol bach, cewch eich tynnu i mewn i stori â sawl tro yn ei chynffon ac elfennau o ansicrwydd. Drwy gydol y stori, mae eich teyrngarwch i’r cymeriadau’n newid, rydych chi’n cwestiynu eich empathi eich hun ac yn teimlo tristwch dros gymeriadau sy’n cael eu cyffwrdd gan chwalfa bywydau’r prif gymeriadau.
Mae’n gipolwg cyfareddol i feddwl gwyrdroëdig, ystrywgar, ac os ydych chi’n dymuno cael y profiad gorau o’r darllen, PEIDIWCH â mynd i weld y ffilm gyntaf. Argymhellir y llyfr gan y grŵp.