Cost of Living Support Icon

Canllaw i Grwpiau Darllen

Adnoddau yn rhad ac am ddim i’ch grŵp darllen yn Llyfrgelloedd y Fro

 

Dilynwch ein canllaw defnyddiol isod i sefydlu a chynnal eich grŵp darllen mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd y Fro. 

Reading group

Gall unrhyw un sefydlu grŵp darllen

  • Grŵp o ffrindiau neu gymdogion
  • Cwsmeriaid rheolaidd mewn bar neu gaffi
  • Mamau ifanc tra bo’r plant mewn grŵp chwarae
  • Trigolion llety lloches
  • Perchnogion rhandiroedd

 

Y nifer ddelfrydol ar gyfer grŵp darllen yw rhwng chwech a deg o aelodau

Sut mae mynd ati i ddenu aelodau?

  • Rhoi hysbysiad mewn ffenest siop bapur newydd
  • Ysgrifennu llythyr at eich papur lleol
  • Rhoi hysbysiad mewn cylchlythyr cymunedol neu eglwysig
  • Rhoi hysbysiad yn eich llyfrgell leol

 

Nesaf, penderfynwch ymhle i gyfarfod, er enghraifft:

  • Yng nghartrefi’r aelodau
  • Mewn caffi neu dafarn leol
  • Mewn neuadd gymunedol neu eglwys leol
  • Mewn lolfa gymunedol
  • Yn sied yr aelodau!

… neu gallech chi ofyn am gael cyfarfod yn y  llyfrgell.

 

Sut mae benthyg y llyfrau?

  • Gofynnwch i’r llyfrgell greu aelodaeth i grŵp darllen.
  • Bydd un person yn eich grŵp yn cael ei enwi fel cyswllt.
  • Bydd gofyn i’ch aelod cyswllt fod yn aelod o’r llyfrgell ac yn hapus i dderbyn cyfrifoldeb dros gerdyn y grŵp ac ymwneud â thaliadau hwyr os yn berthnasol wrth ddychwelyd llyfrau.
  • Bydd y set benodol o lyfrau ar gael i chi yn eich llyfrgell leol.

 

Sut mae dewis pa lyfrau i’w darllen?

  • Ewch i restr Casgliad y Grŵp Darllen(saesneg yn unig). Gallwch ei hargraffu os yw hynny o help. Mae deg copi o bob llyfr ar gael.
  • Os ydych chi’n awyddus i ddarllen llyfr sy ddim ar y rhestr, mae’n hi’n bosib y gallwn ddarparu copïau stoc, ond bydd angen i bob aelod o’r grŵp archebu copi unigol.
  • Buasem yn ddiolchgar tasech chi’n gallu rhoi rhestr dyddiadau i ni ymlaen llaw - chwech mis yw hyd y cais arferol.
  • Anfonwch eich rhestr at barrylibrary@valeofglamorgan.gov.uk
     neu gofynnwch i’ch llyfrgell leol archebu drosoch chi.
  • Caiff pob set o lyfrau ei anfon o Lyfrgell y Barri i’ch llyfrgell leol, a bydd yn cyrraedd mewn da bryd ar gyfer y cyfarfod. Fodd bynnag, NI ALLWN warantu y bydd llyfr penodol ar gael ar ddyddiad penodol os bydd wedi ei ragnodi gan grŵp arall. 

 

Pryd fyddwch chi’n derbyn y llyfrau?

  • Bydd y llyfrgell yn hysbysu eich aelod cyswllt pan fydd y llyfrau’n barod i’w casglu.
  • Mae’r unigolyn cyswllt yn casglu’r llyfrau a benthycir nhw ar gerdyn y grŵp am chwe wythnos. 

 

Gawn ni ymestyn y cyfnod benthyg y tu hwnt i chwe wythnos?

  • Na, ddim fel arfer. Efallai fydd grŵp arall yn aros am y llyfrau.
  • Codir y tâl arferol am lyfrau hwyr os na chaiff y llyfrau eu dychwelyd o fewn chwe wythnos.
  • Dylid dychwelyd y llyfrau i gyd yn y blwch y cawsant eu benthyg ynddo.
  • Os caiff llyfr ei golli neu ei niweidio, unigolyn cyswllt y grŵp fydd yn gyfrifol am dalu’r pris yn llawn am gopi newydd.

 

Syniadau ar gyfer y cyfarfod cyntaf

Nod y cyngor isod yw ennyn trafodaeth ymhlith aelodau’r grŵp am y llyfrau maent yn eu hoffi ac fel arall, a pham. Maent yn ffordd dda o dorri’r garw, ond bydd angen paratoi ymlaen llaw. Os yw’r grŵp yn cyfarfod mewn llyfrgell, gall yr aelodau chwilio’r silffoedd gyda’i gilydd a thrafod gwahanol fathau o lyfrau.

  • Pa dri llyfr fyddech chi’n mynd â nhw i ynys anghyfannedd?
  • Pa lyfrau fu’n ddylanwadol yn ystod eich plentyndod? Dewch â nhw i’r grŵp a’u trafod.
  • Ydych chi’n mwynhau cofiannau a hunangofiannau? Gallai’r grŵp rannu eu hoff lyfrau o’r fath.
  • Dewiswch dri llyfr: un rydych chi’n ei garu, un rydych chi’n ei gasáu ac un yr hoffech ei ddarllen a thrafodwch nhw gyda’r grŵp
  • Llyfrau yn y sinema: pa lyfrau sydd wedi trosglwyddo i’r sgrin fawr yn llwyddiannus? Pa rai sydd heb wneud? Pa lyfrau hoffech chi eu gweld yn cael eu ffilmio?
  • Darllen yn uchel – dewiswch ran o’ch hoff nofel a’i darllen yn uchel i’r grŵp. Gallai hyn fod yn ffordd dda o ennyn trafodaeth bellach.  

 

Syniadau ar gyfer yr ail gyfarfod

Mae pawb wedi darllen y llyfr - nawr mae’n amser trafod. Mae rhai grwpiau’n chwilio am adolygiadau ar-lein o’r llyfrau maent yn eu darllen, neu am wybodaeth am yr awdur. Gall hyn sbarduno trafodaeth ddifyr ac mae anghytundeb yn beth cyffredin. Mae gwerth i farn pawb, ac er y dylid annog pawb i gyfrannu, ni ddylai neb gael ei fychanu na’i eithrio. Mae taflen yn y blwch llyfrau i chi ysgrifennu adolygiad o’r llyfr cyn ei ddychwelyd. Gallai’r rhain ymddangos ar ein tudalennau adolygiadau.

  • A afaelodd y nofel ynoch o’r dechrau, neu a gymerodd hi sbel?
  • Wnaethoch chi anwybyddu rhannau diflas?
  • Oeddech chi’n teimlo empathi at y cymeriadau?
  • Pwy oedd eich hoff/gas gymeriad a pham?
  • A gafodd y nofel effaith emosiynol arnoch chi?
  • Oeddech chi’n hoffi’r diwedd? Fuasech chi wedi gorffen y nofel mewn ffordd wahanol?
  • Fuasech chi’n darllen llyfr arall gan yr un awdur?

 

Beth arall all Grwpiau Darllen ei wneud?

O bryd i’w gilydd, mae’r llyfrgelloedd a mudiadau eraill yn trefnu digwyddiadau a gwahoddir grwpiau darllen y Fro i’r rhain. Caiff manylion eu hanfon drwy e-bost ymhell ymlaen llaw. Mae’n syniad da i ymuno â rhestrau dosbarthu digwyddiadau fel trefnwyr gwyliau llenyddiaeth Penarth a’r Bontfaen. Os am fentro’n bellach, gallech chi drefnu gwibdaith i Ŵyl Lên y Gelli neu Cheltenham.

 

Beth am Grwpiau Darllen i bobl ifanc?

Mae rhai o’n llyfrgelloedd mwy yn cynnal grwpiau darllen Clonclyfrau i blant 8-12 oed. Ceir manylion pellach ar ein tudalennau llyfrgelloedd plant a phobl ifanc.

 

Who Else Writes Like...?

Os ydych chi wedi darllen pob llyfr gan eich hoff awdur, ac yn chwilio am rywbeth yn yr un arddull, neu’n dymuno newid genre, ewch i wefan (Saesneg) 'Who Else Writes Like ...?' am arweiniad.


Mynediad i Who Else Writes Like? ar gyfrifadur y Llyfrgell  
AMynediad i Who Else Writes Like? oddi ar y safle: bydd angen i chi lwytho rhif eich cerdyn llyfrgell.