Cytunodd holl aelodau’r grŵp fod hon yn nofel ddifyr, ddoniol; mi chwarddodd ambell un yn uchel. Mae gan Don, y prif gymeriad, syndrom Asperger gweithrediad uchel heb ddiagnosis, ac mae e’n chwilio am wraig. O’i safbwynt e, buan iawn y gwelwch mai drwy ddefnydd rhesymeg mae’n ffafrio gwneud penderfyniadau. O bryd i’w gilydd, fodd bynnag, roedden ni’n teimlo nad oedd y llais yn gyson, a bod rhai gweithredoedd allan o gymeriad.
Er ein bod yn deall y gallai ‘ymddygiad dysgedig’ newid rhai agweddau o’i fywyd, roedd ambell olygfa’n teimlo’n fwy gweledol ei natur (at ddiben ffilm/drama yn hytrach na nofel, efallai?), neu i ddod i ben â llinyn penodol yn y stori. Buom yn holi beth oedd bwria y llyfr, yn enwedig o ystyried bod nifer o lyfrau eraill ar gael sy’n ymwneud â syndrom Asperger, a daethom i’r casgliad mai’r hyn mae’r llyfr hwn yn ei wneud yn dda yw rhoi cipolwg i ni ar y ffyrdd gwahanol mae pob cymeriad yn mynd i’r afael â’i fyd emosiynol astrus. Mae Ton yn gwneud pethau yn ei ffordd ei hun. Defnyddiwyd yr ymadrodd ‘normaleiddio’r cyflwr’ fwy nag unwaith yn ystod y drafodaeth gan wahanol aelodau o’r grŵp, ond dilynwyd hyn bob tro gan gytgan o ‘beth bynnag yw normal!
’Er mai’r themâu sy’n arwain y stori, mae’n llyfr ysgafn ac ymylu ar genre llên y genod. Roedd y grŵp yn unfrydol wrth argymell The Rosie Project fel llyfr da.